Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd ym mhlwyf Llanferres yn sir Ddinbych, yn fab Dafydd ap Sion ap Rhys, gwehydd (meddir) wrth ei alwedigaeth, a'i wraig Elsbeth ferch Lewis ap Dafydd Llwyd; yr oedd ganddo dair chwaer, Jane, Catrin, a Gwen.
Prin iawn yw'r hanes amdano cyn iddo fynd i Fallwyd. Dywedir iddo dreulio pedair blynedd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, a graddio'n B.A. yno ar 16 Mawrth 1593-4. Gwyddys oddi wrth un o'i lythyrau (NLW MS 14529E ) iddo drigiannu yng nghyffiniau Llandaf, o bosibl rhwng 1595 a 1601 pan oedd William Morgan yn esgob yno. Yr oedd cysylltiad agos rhyngddo a'r esgob Morgan; yn y rhagymadrodd i'w ramadeg (1621) cyfeiria ato'i hun fel cynorthwyydd annheilwng i'r naill a'r llall o gyfieithwyr y Beibl i'r Gymraeg, sef William Morgan a Richard Parry, ac yn y rhagymadrodd i'r geiriadur (1632) y mae'n talu teyrnged i'r blaenaf fel y Gamaliel yr addysgwyd ef wrth ei draed.
Dywedir yn gyffredin mai tua diwedd 1604, ar ôl marwolaeth yr esgob Morgan, y cafodd John Davies reithoriaeth Mallwyd yn Sir Feirionnydd, ond os cywir y dyddiadau a roddir yn NLW MS 1626C gwnaethpwyd y penodiad cyn i'r esgob farw. Graddiodd yn B.D. o Goleg Lincoln, Rhydychen, ar 30 Mehefin 1608, ac yn D.D. ar 21 Mawrth 1615-6. Rywbryd tua 1609 priododd Siân Prys o'r Llwyn Ynn ym mhlwyf Llanfair Dyffryn Clwyd, wyres o du ei mam i'r barwn Lewis Owen o Ddolgellau, a chwaer i wraig yr esgob Richard Parry, olynydd William Morgan yn Llanelwy. Ddechrau 1614 cafodd reithoriaeth Llanymawddwy gerllaw Mallwyd a segurswydd Darowen yn Sir Drefaldwyn, ond rhoddodd yr olaf i fyny yn 1621 pan gafodd segurswydd Llanfor ym Mhenllyn. Yn 1617 cafodd ei benodi'n brebendari Llannefydd yn eglwys gadeiriol Llanelwy. Ym Mallwyd yr oedd yn byw ac 'yn anfynych' yn unig y bu oddi yno hyd ei farwolaeth - yn Harlech, yn ôl William Maurice (Cefnybraich, Llansilin), 15 Mai 1644. Claddwyd ef ym Mallwyd ar 19 Mai. Y mae ei ewyllys ar gael.
Perthyn ei waith cyhoeddedig i'r blynyddoedd 1620-1 a 1632-3. Fel Beibl Richard Parry yr adwaenir argraffiad 1620 o'r Beibl Cymraeg, ond bernir heddiw mai John Davies biau llawer o'r clod am lendid a chywirdeb yr iaith; dichon fod iddo ran yn argraffiad 1621 o'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn ogystal. Yn 1621 hefyd ymddangosodd gramadeg John Davies ei hunan, Antiquae Linguae Britannicae…Rudimenta . Dilynwyd y gramadeg yn 1632 gan y Dictionarium Duplex neu'r geiriadur dyblyg Cymraeg - Lladin a Lladin - Cymraeg, y naill adran ohono'n waith gwreiddiol wedi ei ddechrau yn 1593 a'r adran arall yn dalfyriad o waith mwy gan Dr. Thomas Wiliems o Drefriw sydd eto mewn llawysgrif (Peniarth MS 228 ); treuliodd John Davies flwyddyn gyfan bron yn Llundain pan oedd y geiriadur yn y wasg. Ef hefyd oedd cyfieithydd Llyfr y Resolusion (1632) a golygydd Y Llyfr Plygain a'r Catechisme (1633). Ar ôl ei farw y cyhoeddwyd yr Articulau (1664) a'r Flores Poetarum Britannicorum (1710).
Erys hefyd nifer o'r llawysgrifau a gopïwyd ganddo a throsto. Ffrwyth astudiaeth fanwl o'r ffynonellau hyn ac o waith y beirdd yn arbennig yw'r gramadeg a'r geiriadur a gyhoeddodd; ynddynt hwy gosododd sylfaen gadarn i astudiaethau diweddar o'r iaith Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.