Ganwyd tua 1750, mab Henry Davies, curad Penarth (bu farw 1723), ac ŵyr i John Davies, curad Llanddarog a Llanarthnau, 1719 hyd 1762 (yr oedd ef yn gyfeillgar â Howel Harris, a cheir llythyrau o'i eiddo yn Welch Piety). Ordeiniwyd John Davies gan esgob Tyddewi yn ddiacon, 1773, ac yn offeiriad, 1774; bu'n gurad Abernant a Chynwyl Elfed o 1775 hyd 1787. [Yn ôl yr Evang. Mag., 1826, (cofiant Griffith Williams, tt. 457-61) yr oedd yn gurad Cynwyl yn 1774.] Ymunodd wedyn â'r Methodistiaid a bu'n pregethu yn eu plith dros Gymru oll. Codwyd capel Bancyfelin iddo yn 1788 a bu'n gweinyddu'r Cymun yno hyd 1811. Dywedir iddo gefnu ar y Methodistiaid y pryd hynny, ond tystiolaeth yr arysgrif ar ei feddfaen yn Llanddowror yw ei fod yn 'Minister of the Gospel at Bank-y-felin upwards of 36 years.' Canodd farwnad i goffadwriaeth David Jones, Llan-gan, yn 1811. Bu farw 24 Rhagfyr 1821. Ŵyr iddo (mab Frances, ei unig ferch), oedd John Thomas (1807 - 1870), cenhadwr yn Tinnevelly, India.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.