DAVIES, JOHN (‘Ossian Gwent’; 1839 - 92), bardd

Enw: John Davies
Ffugenw: Ossian Gwent
Dyddiad geni: 1839
Dyddiad marw: 92
Rhiant: Anne Davies
Rhiant: Evan Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Thomas John Morgan

Ganwyd 30 Ionawr 1839 yn nhref Aberteifi. Enwau ei rieni oedd Evan ac Anne. Dywedir fod cryn dipyn o ddawn farddol gan Evan Davies er na chyfansoddodd lawer. Yr oedd yn flaenor gyda'r Methodistiaid. Symudodd y teulu i Rymni pan oedd John yn lled ieuanc. Digon prin oedd ei addysg ysgol. Fe'i prentisiwyd i ddysgu crefft saer coed o dan un o gwmnïoedd gweithfaol Rhymni, a dysgodd grefft ‘pattern-maker’ hefyd. Bu'n byw ac yn gweithio am beth amser ym Merthyr, a daeth i gysylltiad â llenorion blaenllaw y dref honno, megis ‘Dafydd Morgannwg.’ Bu am beth amser hefyd ym Mhontypridd, cyn dychwelyd i Rymni, lle y treuliodd weddill ei oes. Bu farw 24 Ebrill 1892. Ychydig sydd i'w ddweud am ei yrfa gan iddo fyw bywyd dihynodrwydd, heblaw ei fod yn flaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Rhymni, a'i fod heb briodi.

Cyhoeddodd Hughes (Wrecsam) ei gyfrol Caniadau yn 1873 (nid yw'r dyddiad wedi ei argraffu yn y llyfryn ei hun), ac yn 1898 cyhoeddodd J. E. Southall, Casnewydd-ar-Wysg, gyfrol o'i weithiau anghyhoeddedig, sef Blodau Gwent. Edrydd y cyhoeddwr yn y rhagair ychydig o hanes y bardd, a gafodd gan ei frawd-yng-nghyfraith, T. W. Davies, Rhymni. Ceir erthygl goffa gan T. Twynog Jeffreys yn rhifyn Gŵyl Dewi o Geninen 1894, 33-7. Ceir ychydig linellau o ‘Anerchiad’ o waith ‘Islwyn’ i gyfrol y Caniadau; diau fod ‘Islwyn’ ac ‘Ossian Gwent’ yn adnabod ei gilydd yn dda. Yr oedd llawer o fywyd llenyddol yng nghymoedd a threfi diwydiannol dwyrain Morgannwg a Mynwy yr adeg hon, a chystadlu eisteddfodol oedd cymhelliad a mynegiant pennaf y bywyd llenyddol hwn a'r ymdrech yma am ddiwylliant; ond er bod ‘Ossian’ yn byw ynghanol y brwdfrydedd a'r miri eisteddfodol, ac er ei gydnabyddiaeth a'r eisteddfodwyr mwyaf blaenllaw, ‘ni wnaeth englyn erioed; ni chyfansoddodd awdl; nid enillodd gadair yn ei fywyd,’ medd T. Twynog Jeffreys. Yn wir, y mae'r ddau lyfryn barddoniaeth yn hollol wahanol i gyfrolau nodweddiadol y cyfnod; nid yn unig am nad oes ynddynt gyfansoddiadau eisteddfodol, ond yn bennaf am nad yw naws y frawdoliaeth gynganeddol a'r gwmnïaeth farddol ynddynt. Hawdd canfod fod ‘Ossian’ yn ddyn swil, ac yn un a garai'r encilion. Cerddi natur yw cynnwys y ddau lyfryn gan mwyaf; ac er bod rhyw gymaint o rith-gyfriniaeth neu gyfriniaeth ail-law ei gyfnod wedi ei defnynnu dros ei ganu natur, ac ambell atodiad moesol wrth ei ganeuon, yr oedd ganddo awen delynegol o'r iawn ryw, ac y mae'n fwy bardd na'r rhan fwyaf o ffigurau amlwg ei gyfnod; ac wrth ddarllen ei waith gresynir o hyd ac o hyd na chafodd ei eni hanner can mlynedd yn ddiweddarach.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/