DAVIES, JOHN ('Taliesin Hiraethog '; 1841 - 94), amaethwr a bardd

Enw: John Davies
Ffugenw: Taliesin Hiraethog
Dyddiad geni: 1841
Dyddiad marw: 94
Plentyn: Alwen Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: amaethwr a bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Natur ac Amaethyddiaeth; Barddoniaeth
Awdur: Enid Pierce Roberts

Ganwyd yn ffermdy Creigiau'r Bleiddiau, ardal Hafod Elwy, tua thair militir o Gerrig-y-drudion, sir Ddinbych, 2 Hydref 1841. Wedi ysbaid yn ysgol ddyddiol Pentre-llyn-cymer, a gedwid gan weinidog yr Annibynwyr, J. Edwards, ac yna mewn ysgol yng Ngherrig-y-drudion, dan addysg ei gefnder, Huw Huws, dychwelodd i amaethu Creigiau'r Bleiddiau. Ar ôl marw ei fam ymadawodd â'i hen gartref i fod yn feili i C. S. Mainwaring, Llaethwryd, Cerrig-y-drudion. Priododd a mynd i amaethu i fferm Shotton, yn agos i Bwll Gwepra, Sir y Fflint, ond bu farw ei wraig a'i unig fachgen yno. Priododd eilwaith a mynd i fyw i fferm fechan Pen-y-palmant, y Green, ger Dinbych. Ganwyd un ferch o'r briodas hon, Alwen. Digon bregus oedd iechyd John Davies erioed, ac wedi claddu Alwen, yn eneth 17 oed, 27 Tachwedd 1891, dihoenodd yntau. Bu farw 20 Mawrth 1894, a chladdwyd ef ym mynwent yr Eglwys Wen, Dinbych, yn ymyl ' Twm o'r Nant.'

Bardd yr eisteddfod ydoedd. Cymydog iddo yn Hafod Elwy, Elias Jones ('Llew Hiraethog'), Hafod-y-llan, wyr i Robert Davies, Nantglyn, a'i hyfforddodd yng ngherdd dafod ac a gychwynnodd ei ddiddordeb mewn eisteddfodau. Enillodd amryw wobrau am ganu caeth a rhydd, a hefyd wobr am ffug-chwedl, ' Y Sesiwn yng Nghymru.' Y mae ei ganu rhydd yn rhagori tipyn ar ei ganu caeth. Ymhlith y gorau o'i waith ceir ' Pryddest Llywarch Hen,' a ' Rhieingerdd Elwy ac Alwen.' Oherwydd iddo ganu cymaint i'r teulu hwnnw edrychid arno ar un adeg fel bardd teulu 'r Foelas.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.