Ceir llawer o'i waith, yn englynion gan mwyaf, yn NLW MS 672D - efallai wedi eu hysgrifennu yn y gyfrol honno ganddo ef ei hun; gweler Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Sir Feirionydd, i. Bardd cefn gwlad ydoedd a diddordeb ei waith yn gyfyngedig, felly, i'r hyn a ddywed am ddigwyddiadau a phersonau yn ei ran ef o Sir Feirionnydd yn hanner cyntaf y 19eg ganrif Gwelir 'anerch barddonol' ganddo yn nechrau Diliau Meirion (Dolgellau, 1853) a cheir ei enw yn rhestr faith y 'Subscribers' Names' ar ddiwedd y gyfrol honno, sydd yn cynnwys gwaith Morris Davies ('Meurig Ebrill'). Yr oedd yn gyfarwydd â Robert Davies ('Bardd Nantglyn') ac Edward Davies ('Iolo Trefaldwyn'), a cheir yn y llawysgrif (sef NLW MS 672D ) ganiadau iddo gan y ddeufardd hyn. Bu farw 1857 a'i gladdu yn Llanelltyd 23 Medi.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.