DAVIES, ROBERT ('Cyndeyrn '; 1814 - 1867), cerddor

Enw: Robert Davies
Ffugenw: Cyndeyrn
Dyddiad geni: 1814
Dyddiad marw: 1867
Priod: Margaret Davies (née Williams)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 16 Mehefin 1814 mewn amaethdy o'r enw Segar, Henllan, ger Dinbych. Collodd ei fam yn 4 oed, a dygwyd ef i fyny gan ei ewythr ym Mronhaul, Henllan. Prentisiwyd ef yn baentiwr yn Llanelwy. Yn 1834 symudodd i Fangor, ac yno y daeth yn amlwg fel cerddor, ac y dewiswyd ef yn arweinydd canu yng nghapel y Wesleaid. Yn 1837 priododd Margaret, merch Owen Williams, Tros-y-canol, ger Bangor, a adwaenid dan yr enw ' Meinwen Elwy,' ac a hanoedd o deulu Goronwy Owen. Yn 1840 symudodd y teulu i Lanelwy, ac apwyntiwyd ef yn brif alto yn nghôr yr eglwys gadeiriol, a bu yn y swydd am 27 mlynedd. Sefydlodd ' Glee Society ' a ' Philharmonic Society,' a phenodwyd ef i arwain y corau ar gyfer cylchwyl gerddorol eglwysi esgobaeth Llanelwy. Yr oedd yn gyfansoddwr anthemau da. Yn eisteddfod Bethesda 1852 enillodd wobr a thlws am yr anthem ' Mawl a'th erys Di yn Seion.' Wrth yr anthem hon y rhoddodd yr enw ' Cyndeyrn ' fel ffugenw a galwyd ef ar yr enw tra bu byw. Enillodd ym Methesda yn 1853, ac yn eisteddfod Dinbych 1860. Cyhoeddwyd yr anthemau yn Y Cerddor Cymreig, a Greal y Corau, a cheir tonau o'i waith yn Llyfr Tonau ac Emynau (Stephen and Jones), Casgliad St. Asaph (W. J. Hughes), a Caniadau y Cysegr a'r Teulu (Gee, Dinbych). Yr oedd yn feirniad cymeradwy, a gelwid yn fynych am ei wasanaeth. Bu farw fis Hydref 1867 a chladdwyd ef ym mynwent Llanelwy.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.