Ganwyd 19 Rhagfyr 1805 yn Penderlwyngoch, Gwnnws, Sir Aberteifi, mab John Edwards. Addysgwyd ef yn ysgol Ystrad Meurig, ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, lle y graddiodd yn 1830 yn B.A. ac yn ddiweddarach yn M.A. Urddwyd ef yn ddiacon yn 1832, ac yn offeiriad yn 1833. Gwasanaethodd fel curad ym mhlwyfi Llansantffraid Glyndyfrdwy ac Aberdyfi, ac yn 1843 penodwyd ef gan Syr Watkin Williams Wynn yn beriglor Rhosymedre, lle y llafuriodd hyd ddiwedd ei oes. Dechreuodd ddysgu cerddoriaeth yn ieuanc, a chafodd wersi gan Dafydd Siencyn Morgan, ac astudiodd ramadegau cerddorol Taunsur, Calcott, ac eraill, a daeth yn gerddor enwog. Yn 1836 dug allan Original Sacred Music, y llyfr tonau cyntaf at wasanaeth cynulleidfaoedd yr Eglwys yng Nghymru. Yn 1843 daeth ag ail gyfrol o donau allan. Cyfansoddodd lawer o donau, ac erys ' Rhosymedre ' neu ' Lovely ' yn boblogaidd o hyd. Cyfansoddodd Dr. Vaughan Williams Choral Prelude on the Welsh Tune 'Lovely,' a chanwyd hi ar yr organ yng ngŵyl gerddorol cerddoriaeth eglwysig yn y Plas Grisial, Llundain, 21 Gorffennaf 1933. Yr oedd yn un o feirniaid gorau Cymru, ac ef ac Edward Stephen ('Tanymarian') a farnodd ' Teyrnasoedd y Ddaear ' J. Ambrose Lloyd yn orau yn Bethesda yn 1852. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd a bugail cymeradwy. Bu farw yn nhŷ ei nai yn rheithordy Llanddoget, 24 Tachwedd 1885, a chladdwyd ef yn Talyllyn, Meirionnydd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.