Ganwyd 4 Mawrth 1875 yn Berlin House, Blaenau Ffestiniog, mab Jonathan Edwards, siopwr. Ar ôl cael addysg yn ysgol Llanymddyfri ac yn Beaumont, Jersey, aeth i Rufain a Paris. Dangosodd rai o'i ddarluniau yn y Paris Salon, yn Llundain, a rhai trefi eraill. Gwnaeth luniau o'r iarll Lloyd George o Ddwyfor a'i ferch Megan, Syr Owen M. Edwards, Mr. a Mrs. John Hinds, R. O. Hughes ('Elfyn'), Ellis H. Evans (' Hedd Wyn '), etc. Ar ôl rhyfel 1914-8 cynlluniodd faner ac arwyddlun y ' Comrades of the Great War,' rhôl anrhydedd y Royal Welch Fusiliers, etc. Yr oedd hefyd yn gwneud lluniau i'w rhoddi mewn llyfrau printiedeg. Bu farw 11 Hydref yn Ceinewydd, rhwng Maentwrog a Talsarnau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.