Cywiriadau

EDWARDS, PETER ('Pedr Alaw ' 1854 - 1934), cerddor

Enw: Peter Edwards
Ffugenw: Pedr Alaw
Dyddiad geni: 1854
Dyddiad marw: 1934
Rhiant: Elizabeth Edwards
Rhiant: John Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Castle Cottage, Rhuddlan, Sir y Fflint, mab John ac Elizabeth Edwards. Cafodd ei addysg yn Ysgol Genedlaethol Rhuddlan. Yr oedd yn hoff o ganu yn fachgen, a pherthynai i gôr y capel, lle y dysgodd y tonic sol-ffa. Wedi gadael yr ysgol aeth i swyddfa masnachwr coed yn y Rhyl, ac oddi yno i swyddfa masnachwyr coed yn Lerpwl. Tra y bu yno arweiniai gôr plant Bootle. Cyfansoddodd anthem ar gyfer eisteddfod Lerpwl a dyfarnodd ' Owain Alaw ' hi yn orau. Wedi pum mlynedd yn Lerpwl, bu am ychydig fisoedd yn Barrow, ac yn 1877 aeth i Lundain yn ysgrifennydd llaw-fer mewn swyddfa goed. Cafodd gwrs o addysg gerddorol yn y Birkbeck Institute, ac yn y Trinity College o dan Dr. Turpin a Dr. Karn. Bu'n arwain corau undebol a chymanfaoedd y plant, ac ysgrifennai nodiadau cerddorol i'r Kelt. Gelwid am ei wasanaeth fel beirniad ac arweinydd cymanfaoedd. Cyfansoddodd a chyhoeddodd y cantawdau, ' Gareth ac Eiluned ' a ' Cantawd y Blodau,' Anthemydd y Cysegr, ' Taith y Pererin ', Llyfr o 300 o Salm-donau, ynghyd â nifer o donau cynulleidfaol. Yn 1912 ymfudodd i U.D.A., a graddiodd yn Faglor mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Toronto. Ymgymerodd â gwaith y weinidogaeth, a gwnaed ef yn rheithor cynorthwyol yn eglwys gadeiriol Lisbon, North Dakota. Yn 1932 symudodd i Chicago a bu'n rheithor cynorthwyol eglwys S. Luc. Bu farw 23 Gorffennaf 1934, a chladdwyd ef ym mynwent Graceland yn ninas Chicago.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Cywiriadau

EDWARDS, PETER (PERCY); ('Pedr Alaw '; 1854 - 1934)

Derbyniodd radd Mus. Bac. (Toronto) cyn 1906. Wedi ymfudo a chymryd urddau eglwysig bu'n gweinidogaethu yn eglwysi Westminster and Ideal, South Dakota, Monango and Lisbon, North Dakota, Malta and Roundup, Montana, a bu'n offeiriad cynorthwyol yn eglwys gadeiriol Helena ym Montana. Cyfansoddodd lawer ac arwain grwpiau corawl. Adweinid tri o'i feibion yn Wisconsin fel y 'Welsh boy singers'. Ymhlith ei gyfeillion yr oedd Daniel Protheroe (Bywg., 754-55) a Bransby Williams. Diogelir llawer o'i waith cerddorol yn y Llyfrgell Brydeinig a Ll.G.C., Cyflwynodd ei Beatitudes (1906), cantawd gysegredig, i'w gyfaill, John Owen, Esgob Tyddewi. Erbyn hyn yr oedd wedi mabwysiadu'r enw Percy Edwards.

Awdur

  • Evan David Jones, (1903 - 1987)

    Ffynonellau

  • Gwybodaeth gan ei fab, Merlin D. Edwards, Minneapolis, a Huw Williams

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.