EINION ap MADOG ap RHAHAWD (c. 1237), un o'r Gogynfeirdd

Enw: Einion ap Madog ap Rhahawd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o'r Gogynfeirdd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Gildas Tibbott

Un darn o'i farddoniaeth sydd ar gael, sef awdl foliant i'r tywysog Gruffudd ap Llywelyn. Ceir hi yn Hendreg. MS. ac mewn copïau o'r llawysgrif honno (B.M. MS. 14, 869, Llanstephan MS 31 , Peniarth MS 119 . Fe'i cyhoeddwyd yn The Myvyrian Archaiology of Wales , i, 391; Anwyl, The Poetry of the Gogynfeirdd, 154; Llawysgrif Hendregadredd, 54-5; a Stephens, The Literature of the Kymry, 371-2.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.