Ganwyd 9 Rhagfyr 1819, ym Mryndu, Môn, mab y Parch. David Elias, Pentraeth, ac Elizabeth Roose, a nai i John Elias o Fôn. Bu'r Parch. Owen Jones ('Meudwy Môn'), a gadwai ysgol ym Mhenygarnedd, yn athro iddo, a bu hefyd o dan addysg y Parch. R. Hughes, Gaerwen. Ar ôl hynny bu yn ysgol enwog Tattenhall. Golygai ei rieni iddo, ar ôl gadael yr ysgol, aros i'w cynorthwyo gyda'r busnes ym Mhentraeth, ond rhoesai'r bachgen ei fryd ar fynd yn beiriannydd. Aeth i Lerpwl i wasnaethu masnachwr yno, ond symudodd i Fanceinion, a bu'n drafaeliwr dros un o fasnachdai'r dref honno am flynyddoedd.
Ar farw'i dad yn 1856, ymgymerth â'r cyfrifoldeb o ddwyn y busnes ymlaen ym Mhentraeth. Ymroes yn ei oriau hamdden i ymchwil llenyddol a hynafiaethol. Ysgrifennai i'r Wasg Gymraeg a Saesneg ar faterion llenyddol a phynciau'r dydd, a dangosai ei ysgrifau graffter beirniadol. Adolygodd y ddadl ar y degwm a ymddangosodd yn Yr Herald Cymraeg, 1865-7, a dywaid 'Mathetes' (Geiriadur) mai dyma'r peth mwyaf meistrolgar a ymddangosodd ar y pwnc. Ysgrifennodd farddoniaeth yn Gymraeg a Saesneg, a chyhoeddodd gyfrol o'i gyfansoddiadau, Llais o'r Ogof, 1877. Gwnaeth ymgais, a gostiodd yn ddrud iddo, i gychwyn cymdeithas hynafiaethol Gymraeg gyda chyhoeddiad chwarterol at ei gwasanaeth, ond methodd o ddiffyg cefnogaeth. Gwasnaethodd fel beirniad mewn eisteddfodau cenedlaethol a lleol am flynyddoedd, yn enwedig fel beirniad hanesyddol. Ar y cyntaf, 'Thesbiad' y galwai efe'i hun, ond oblegid i rywun arall ddefnyddio'r enw i ymosod ar y Methodistiaid yn y Wasg, ac i hynny beri gofid iddo, rhoddodd heibio'r enw a'i alw ei hunan 'Y Thesbiad.'
Ym Manceinion, daeth o dan ddylanwad y mudiad gwleidyddol a ddygid ymlaen gan Cobden a Bright i ddiddymu'r Deddfau Ŷd, ac yr oedd yntau'n bleidiwr eiddgar i fasnach rydd, a gwasgarai lenyddiaeth y Cynghrair ar ei deithiau trwy Ogledd Cymru.
Bu farw 19 Ionawr 1881.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.