EVANS, GRIFFITH (1835 - 1935), arloeswr astudiaeth clefydon anifeiliaid a achosir gan gynfilod, a darganfyddwr 'Trypanosoma Evansi'

Enw: Griffith Evans
Dyddiad geni: 1835
Dyddiad marw: 1935
Priod: Catherine Mary Evans (née Jones)
Plentyn: Mair Olwen Jones (née Evans)
Rhiant: Mary Evans (née Jones)
Rhiant: Evan Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arloeswr astudiaeth clefydon anifeiliaid a achosir gan gynfilod, a darganfyddwr 'Trypanosoma Evansi'
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Ywain Goronwy ap Griffith

Ganwyd 7 Awst 1835 yn Tymawr, Towyn, Meirionnydd, mab Evan Evans (1801 - 1882) a Mary (1809 - 1877), merch William Jones, Tyddyn-y-berllan, Towyn. Yr oedd y tad yn olrhain ei ach o rai o hen deuluoedd Meirionnydd ac yn cyfrif bod Lewis Owen, a laddwyd yn 1555, a Robert Vaughan, Hengwrt, ymysg ei hynafiaid. Addysgwyd Griffith Evans yn y British School, Bryncrug, ac yn breifat. Bu'n ddisgybl i John Pugh, F.R.C.S. ('Ioan ab Hu Feddyg'), Aberdyfi a Towyn. Ym mis Rhagfyr 1853 aeth i'r Royal Veterinary College, gan basio'n M.R.C.V.S. ym Mai 1855. Efe oedd gyda'r cyntaf i gael ei wneud yn swyddog yn y fyddin oblegid pasio arholiad, a chan iddo basio ar dop y rhestr daeth yn feddyg anifeiliaid i'r Royal Artillery ym mis Ionawr 1860. Aeth i Canada yn y 'Great Western' gyda milwyr, a sefydlu ym Montreal, Mehefin 1861. Ymaelododd yn adran feddygol Prifysgol McGill, a graddiodd yn M.D., C.M., 1864. Ar y darfodedigaeth yr ysgrifennodd ei draethawd graddio; rhoes ynddo dystiolaeth o'i natur heintus, ac awgrymodd fod yn rhaid i'r rhai sydd yn dioddef rhagddo gael digonedd o awyr iach. Dychwelodd gyda milwyr i Loegr ym mis Gorffennaf 1870.

Fe'i hanfonwyd i'r India yn 1877 - i Sialkot yn y Punjab i archwilio clefyd lleol a fu am flynyddoedd yn peri i lawer iawn o geffylau'r fyddin draed, a rhai byddin y gynnau mawr, golli eu bywydau nid yn unig yn Sialkot ond mewn mannau eraill yn yr India, lle yr oedd y fyddin Brydeinig yn aros. Profwyd mai y clwyf du ydoedd. Ym mis Awst 1880 gofynnwyd i Evans fyned i Dera Ismael Khan i archwilio natur ac achos clefyd a flinasai geffylau a chamelod y Punjab Frontier Force ar hyd llawer o flynyddoedd. Gallodd brofi mai milionod yn y gwaed oedd yn achosi'r clefyd, a rhoddwyd iddynt yr enw ' Trypanosoma Evansi ' am mai Evans a'u darganfu. Dychwelodd i Loegr yn Rhagfyr 1885 a gadawodd y fyddin yn 1890 gyda'r gradd o ' Inspecting Veterinary Surgeon,' a daeth i fyw yn Brynkynallt, Bangor. Cafodd y Mary Kingsley Medal yn 1917, a D.Sc. (Cymru), 1919 (er anrhydedd).

Priododd, 26 Hydref 1870, Catherine Mary (1843 - 1923), unig ferch John Jones, M.R.C.S., Gelli, Llanfair Caereinion, wyres i Owen Jones 'o'r Gelli'. Bu iddynt fab a phedair merch. Bu farw 7 Rhagfyr 1935.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.