EVANS, JOHN (1651? - 1724), esgob Bangor, ac wedyn esgob Mydd (Meath)

Enw: John Evans
Dyddiad geni: 1651?
Dyddiad marw: 1724
Rhiant: Ynyr Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Bangor, ac wedyn esgob Mydd (Meath)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Dywed Browne Willis (yn 1721, pan oedd Evans eto'n fyw) mai yn y Plas Du, Llanarmon (Eifionydd) y ganwyd ef. Nid oedd, wrth gwrs, yn un o Oweniaid gwreiddiol y Plas Du (ymddengys dau o'r rheini yn y Geiriadur hwn), ac nid yw'n eglur o ble y daeth ei deulu. Dywed ' Eben Fardd ' (Y Brython, iv, 422) mai o Elernion yng ngogledd plwyf Llanaelhaiarn, a ' Myrddin Fardd ' (Enwogion Sir Gaernarfon, 74) mai o'r Bryn Bychan yn neheubarth y plwyf; cytuna J. E. Griffith (Pedigrees 257) mai o'r Bryn Bychan, ond lleola'r ty yn Nantlle. Efallai mai gwell yw barnu mai gwall yw ' Nantlle ' Griffith, mai cefndir cyffredinol y teulu a oedd gan ' Eben Fardd ' mewn golwg, ac mai'r Bryn Bychan (Llanaelhaiarn) oedd cartre'r gainc hon o'r teulu cyn y symud i'r Plas Du. Yn wir, dywed ' Myrddin Fardd ' mai yn y Bryn Bychan y ganwyd yr esgob; ni ellir torri'r ddadl honno - pan adawodd Evans gymynrodd i'r plwyf, gellid ystyried hynny'n deyrnged naill ai i fangre ei enedigaeth neu i hendref ei deulu.

Dirgelwch, drachefn, yw hanes ei yrfa yn y brifysgol. Dywed Browne Willis mai yng Ngholeg Iesu yn Rhydychen y bu, ac uniaetha Foster ef â'r John Evans a raddiodd o Goleg Iesu yn 1681 (M.A., 1684; D.D., 1695), heb gofnod o'i ymaelodaeth nac o'i oedran. Ond yr oedd yr esgob yn yr India yn 1678. Awgryma'r D.N.B. y gall mai efe oedd y John Evans a raddiodd o Goleg Iesu yn 1671 (ymaelododd 5 Mai 1667, yn 19 oed) ac a gymerth ei M.A. yng Ngholeg Iesu yng Nghaergrawnt yn 1674 (Venn). Ond gwr o sir Ddinbych oedd hwnnw, mab i David Evans, clerigwr, o Drofarth (Abergele) - eto chwanega Venn mai 'o Sir Gaernarfon.' Ond y mae gan Foster John Evans arall fyth: ' John, mab Bonner, Plasdu,' a ymaelododd yn Gloucester Hall, 6 Mawrth 1667-8, yn 16 oed; ni ddywedir iddo raddio, ac nid oes air am Goleg Iesu. Prin y gellir esgeuluso'r cofnod hwn; y mae'r ' Plasdu ' yn awgrymog; ac yn ôl taflen J. E. Griffith, enw tad yr esgob oedd ' Ynyr Evans ' - pe gelwid y llanc yn ' John ab Ynyr ' neu ' Bynyr,' hawdd y gallai'r cofnod fod fel y mae. Rhaid gadael y mater heb ei benderfynu. Os y llanc o Drofarth oedd yr esgob, yna fe'i ganwyd yn 1648; os mab ' Bonner,' yna yn 1651 neu 1652.

Y mae gweddill ei hanes yn hollol glir. Yn 1678 aeth allan i'r India, yn gaplan dan yr East India Co., yn Bengal i ddechrau, ond symudwyd ef i Madras yn 1692. Yn yr India, gellid barnu iddo ymroi'n ddiwyd i gasglu cyfoeth, ond nid oedd ar delerau da â swyddogion y cwmni, ac yn gynnar yn 1692 bygythid atal ei gyflog. Erbyn Ebrill 1698 (beth bynnag) yr oedd wedi dyfod adre, a phenodwyd ef yn rheithor Llanaelhaiarn (Browne Willis), ond yn ddigon od, nid oes sôn am ei sefydlu yno yn rhestrau A. Ivor Pryce. Ar ddiwedd 1701 fe'i penodwyd yn esgob Bangor, a'i gysegru 4 Ionawr 1701-2. Yr oedd yn Chwig pendant iawn. Ni wyddys am fawr ddim a wnaeth ym Mangor, ond efe (am ei werth) oedd y Cymro diwethaf a fu'n esgob yno, nes penodwyd Daniel Lewis Lloyd yn 1890. Yn Ionawr 1715-6 symudwyd ef i esgobaeth Mydd. Bu farw yn Nulyn, 22 Mawrth 1723-4. Gadawodd lawer iawn o arian i Eglwys Iwerddon ac i Gronfa'r Frenhines Anne, a £140 at reithordy Llanaelhaiarn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.