EVANS, LEWIS (1720 - 1792), un o gynghorwyr cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn y Gogledd

Enw: Lewis Evans
Dyddiad geni: 1720
Dyddiad marw: 1792
Rhiant: Evan Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o gynghorwyr cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn y Gogledd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Bedyddiwyd 18 Chwefror 1719-20, mab i Evan Lewis o Drefeglwys, ond symudodd yn fore i'r Crugnant, Llanllugan, i fyw gyda'i daid, a hyfforddwyd ef yn wehydd. Ar ymweliad â Threfeglwys, 4 Tachwedd 1738, argyhoeddwyd ef dan bregeth Howel Harris. Bu yn ysgolion Griffith Jones (Llanddowror) yn ardal Llanllugan, a dechreuodd gynghori. Yn 1745, penodwyd ef gan y sasiwn yn Nhrefeca i gynghori'n deithiol yn y Gogledd. Carcharwyd ef yn Nolgellau yn 1745 am gynghori yn y Bala - mae'r helynt hwn yn ddiddorol am i Harris fynd â'r achos o flaen y ' King's Bench ' yn Llundain (argraffwyd dyfyniadau o'r dogfennau yn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, Tachwedd 1921); bu'n rhaid i'r ustusiaid ollwng Lewis Evans yn rhydd. Teithiodd yn ddygn yn y Gogledd, hyd yn oed ym Môn ac Arfon, a dioddefodd erlid caled. Yn Ymraniad 1750, ochrodd ar y cychwyn gyda Harris, a mynychai ei sasiynau; ond yn y diwedd ymunodd â chyfundeb Rowland. Bu farw 5 Medi 1792 (E. Griffith, Methodistiaeth Trefaldwyn Isaf, 39).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.