FFINIAN, sant (fl. yn y 6ed ganrif).

Enw: Ffinian
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Hywel David Emanuel

Y mae dwy fersiwn o 'Fuchedd' Ffinian yn fwy eu pwys na'r fersiynau eraill sydd ar gadw. Cynhwysir y naill yn Acta SS. Hiberniae Colgan, a cheir y llall, sef cyfieithiad Gwyddeleg sydd yn llawnach na'r cyntaf ond er hynny yn ddiweddarach o ran amser, yn y ' Book of Lismore.' Gwyddel oedd Ffinian, ac yn Iwerddon y gwnaeth ei brif waith. Ei brif sefydliad yno oedd mynachlog Clonard. Dywed y 'Fuchedd' er hynny mai yng Nghymru y derbyniodd Ffinian ei addysg a'i hyfforddiant. Pan yn 30 oed, daeth Ffinian drosodd i Hen Fynyw lle y cyfarfu â thri o saint Cymru, Dewi, Gildas, a Chathmael, a'r ddau gyntaf ohonynt yn ymryson â'i gilydd yr adeg honno am arweinyddiaeth Cymru. Torrodd Ffinian y ddadl yn ffafr Dewi Sant. Dywedir iddo aros gyda'r henuriaid Prydeinig am 30 mlynedd, ac yn y cyfnod hwnnw iddo gyflawni llawer o wyrthiau, ac iddo hefyd gynorthwyo i droi yn ôl oresgyniad a wnaed gan y Saeson. Y mae'r ystori a geir ym 'Muchedd' Cadog yn gwahaniaethu oddi wrth hanes 'Buchedd' Ffinian. Dywed honno i Gadog ddwyn yn ôl gydag ef o Iwerddon y tri sant Ffinian, Macmoil, a Gnafan. Bu'r tri yn fyfyrwyr yn Llancarfan, a gwnaethant lawer o wyrthiau yno. Dengys y ddau hanes mor gyfeillgar oedd y berthynas draddodiadol a fodolai rhwng Cymru ac Iwerddon yn oes y seintiau. Dethlir dydd gŵyl Ffinian fel rheol ar 12 Rhagfyr, ond nodir 23 Chwefror hefyd mewn rhai calendrau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.