mab Gerallt o Windsor, prif ganlynwr Arnulf Montgomery a cheidwad castell Penfro (1093-wedi 1116), o'i wraig Nest, merch Rhys ap Tewdwr. Bu dau o feibion Gerallt a Nest, Maurice a William, y naill yn arglwydd Llansteffan a'r llall yn arglwydd Emlyn, yn amlwg fel arweinwyr Saeson a Normaniaid Gorllewin Cymru yn erbyn gwrthryfel mawr tywysogion Cymru yn 1136. Yn 1146 yr oeddynt yn flaenllaw yn yr ymdrech aflwyddiannus a wnaethpwyd i adennill castell Llansteffan oddi wrth y Cymry.
Yn ddiweddarach cymerodd Maurice a'i hanner-brawd Robert Fitzstephen ran bwysig yng nghoncwest Iwerddon. Yn 1169 glaniodd yn Wexford gyda'i ganlynwyr ac arweiniodd y fintai Saeson yn erbyn Dulyn. Am ei wasanaeth rhoddodd yr iarll Rhisiart gantref Kildare iddo ac o'r diwedd ymsefydlodd yno. Dywedir mai Alice, ŵyres Roger de Montgomery, oedd ei wraig; yr oedd hi'n fyw yn 1171. Dyn gwrol, diymhongar, a phrin ei eiriau oedd Maurice. Bu farw yn Wexford c. 1 Medi 1176.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.