Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

GRIFFITH, JOHN EDWARDS (1843 - 1933), achyddwr

Enw: John Edwards Griffith
Dyddiad geni: 1843
Dyddiad marw: 1933
Rhiant: Griffith Griffith
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: achyddwr
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Natur ac Amaethyddiaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Richards

Ganwyd 18 Mehefin 1843. Gan ei fod yn ŵr da arno, medrodd ymddiddori'n fore ym myd hynafiaeth a byd natur; dyna sy'n cyfrif am ei waith yn cyhoeddi y Flora of Anglesey and Carnarvonshire yn 1894 a'r Portfolio of Photographs of Cromlechs, 1900; bu farw'n un o aelodau hynaf y Cambrian Archaeological Association (dod i mewn iddi yn 1888); yr oedd, o'r cychwyn cyntaf, yn aelod amlwg o Gymdeithas Hynafiaeth Môn - ychydig iawn o amser cyn ei farw cyfleodd restri o offeiriaid yr ynys i'r Transactions, a detholion diddorol o ddyddiaduron Bulkeley o'r Brynddu. Yr oedd Griffith yn boenus ofalus gyda phopeth a wnâi, manwl a gwyddonol ei ddulliau, ac ni roddai ddim ar lawr heb fod (yn ei farn ef) brofion safadwy y tu ôl iddo. Awr ffodus oedd honno, felly, pan ddechreuodd ar ei hoff waith o adeiladu tablau achau; yr oedd yn ei elfen, a'i gysylltiadau teulu yn gymorth dirfawr iddo. Yr oedd ei dad, Griffith Griffith o'r Taldrwst yn Llangristiolus, yn aelod o deulu Penhesgin yn Llanfaethlu, ei fam o waed Huwsiaid Plas Coch, ewythr iddo wedi priodi merch William Williams o Landegai, ef ei hun yn briod (yr eiltro) â merch y Glasfryn ger Llangybi, priodas a ddaeth ag ef i gyffwrdd clos â chlwstwr newydd o ysweiniaid a chlerigwyr. Yr oedd llu o ddrysau yn agored iddo i archwilio papurau preifat a hen ddogfennau. Daeth yn hyddysg hefyd yn nhablau Lewis Dwnn, yn y rhestri achau a gasglwyd gan yr esgob Humphrey Humphreys, a bu'n lwcus ryfeddol i sicrhau llyfrau llawysgrif John Ellis o'r Tai Croesion yn Llechylched, achyddwr gofalus a ddug ddisgyniadau teuluoedd Môn ac Arfon i lawr i 1721. Yn ychwanegol at hyn, bu'n lloffa'n ddygn yng nghofnodion esgobaeth Bangor ac yn ewyllysiau'r ' Probate Office ' (y ddwy swyddfa ym Mangor yn ei amser ef), a chadarnhau'r profion hyn drwy fynych archwilio llyfrau'r plwyfi oedd yn llaw'r offeiriaid. Ffrwyth y cwbl oedd cyhoeddi'r Pedigrees yn 1914, llyfr anferth ar achau prif deuluoedd Môn ac Arfon, heb anghofio eu ceinciau yn siroedd eraill Gogledd Cymru, llyfr amhrisiadwy werthfawr i bob chwilotwr a llyfrgellydd. Gwir bod y casgliadau lluosog a ddaw i mewn i'n llyfrgelloedd, gyda'u llu o ffeithiau newyddion, yn dangos yn eglur nad yw'r Pedigrees yn berffaith: rhai tablau'n anghyflawn, amryw yn anghywir. Y mynegai yn werthfawr, ond yn rhy fyr o lawer. Beth bynnag am y gwendidau hyn, erys y Pedigrees yn dyst o blwc aruthr, amynedd, a dyfalbara dirfawr, ac o ffeithiau trefnus a chywir i'w ryfeddu. Bu farw 4 Gorffennaf 1933.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.