Ganwyd yn 1721 ym Mhen-y-bryn, Llangybi, Sir Gaernarfon. Yr oedd yn ewythr (frawd tad) i Magdalen, priod Robert Jones, Rhoslan. Bu'n gwasanaethu William Prichard, Glasfryn Fawr, a dechreuodd gynghori. Cafodd ei erlid ar gychwyn ei yrfa. Derbyniwyd ef i athrofa Caerfyrddin yn 1760, ac urddwyd ef yn weinidog Trefgarn a Rhosycaerau, Sir Benfro, yn 1757. Bu farw 17 Hydref 1769, a'i gladdu ym mynwent Mathry. Cymysgir ef yn aml â Morris Griffiths yr emynydd. Dywed ei farwnadydd, 'Anadlodd fywyd egwan, Ynghyrau Arfon oerfan'; ar sail hynny gellir barnu mai ef, ac nid yr emynydd, yw'r Morris Griffiths a aned yn Llangybi.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.