HOWELLS, THOMAS ('Hywel Cynon '; 1839 - 1905), glowr, argraffydd, cerddor, bardd, a phregethwr

Enw: Thomas Howells
Ffugenw: Hywel Cynon
Dyddiad geni: 1839
Dyddiad marw: 1905
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: glowr, argraffydd, cerddor, bardd, a phregethwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Crefydd; Cerddoriaeth; Perfformio; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yng Nglyn-Nedd, Morgannwg, 12 Hydref 1839. Symudodd y teulu i Rhymni i fyw, a dechreuodd y bachgen weithio yn y lofa yn 7 oed; symudwyd wedyn i Aberaman lle yr oedd gwell manteision addysg, a dechreuodd y mab fynychu ysgol nos a gedwid gan y gweinidog, John Davies. Yn 1858 daeth ' Ieuan Gwyllt ' i Aberdâr, a daeth ' Hywel Cynon ' o dan ei ddylanwad ef a cherddorion eraill a drigai yn y dref. Yn 1866 prynodd beiriannau argraffu ' Tavalaw,' a dilynodd y grefft o argraffu hyd ei farwolaeth. Yr oedd yn bregethwr cynorthwyol yn Saron (A.), Aberaman, a phregethai yn fynych oddi cartref. Cyhoeddodd ddau lyfr o farddoniaeth, Awelon yr Haf, a Cerddi Hywel Cynon. Cyfansoddodd amryw ddarnau cerddorol a fu'n boblogaidd yn ei gyfnod, e.e. ' Gwnewch bopeth yn Gymraeg,' a cheir tôn ganddo yn Llyfr Tonau Stephen a Jones. Dug allan yn 1871 Gêirlyfr Cerddorol a fu o wasanaeth mawr i gerddorion. Gwasnaethodd fel beirniad ac arweinydd cymanfaoedd, a chymerai ran fel datganwr yng nghyngherddau côr undebol Aberdâr. Bu farw 15 Hydref 1905 a chladdwyd ym mynwent gyhoeddus Aberdâr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.