Ganwyd yn Wincanton, Gwlad yr Haf, 1740, mab y Parch. William Howell, Birmingham. Fe'i haddysgwyd gan ei dad, a chan Jenkin Jenkins, Llanfyllin. Yn ystod 1759-60 yr oedd yn academi Warrington, ac yn 1760-4 yng Ngholeg Caerfyrddin. Yr oedd, yn ôl y Cofiant, yn gyd-efrydydd â ' Dafis Castellhywel.' Bu am beth amser ar y Cyfandir ac yn gofalu am eglwys Seisnig yn Amsterdam. Wedi dychwelyd bugeiliodd eglwys Chelwood gerllaw Bryste (1771-86). Oddi yno fe'i galwyd yn 1786 i fugeilio eglwys Bresbyteraidd Abertawe, ac yn brifathro'r coleg. Bu'n brifathro am naw mlynedd hyd ganol haf 1795, pan fu ymrafael rhyngtho â'i gyd-athro, John Jones. Maentumir fod gan yr is-athro dymer ddi-lywodraeth, a chaewyd y coleg dros dro. Nid ydoedd yn flaengar ei syniadau er dywedyd ei fod yn Ariad. Yn 1813 ymddiswyddodd oherwydd dallineb, ond cynigiwyd cyd-weinidog iddo. Derbyniodd yntau'r cynnig ond anghytunwyd ar y dewis. Bu rhwyg yn yr eglwys, ac ymadawodd Howell a'i ganlynwyr, a sefydlwyd eglwys Gynulleidfaol Castle Street; agorwyd y capel newydd yn Rhagfyr 1814. Ni bu yn weinidog yma ond ymunodd â'r eglwys. Cododd yr ymrafael oherwydd gwrthod ohono gerdded rhagddo i Undodiaeth fel y gwnaeth Richard Aubrey, ei olynydd, a dyna, ond odid, a esbonia y 'rugged church business' fel y'i gelwir. Bu farw 21 Mehefin 1822 a chladdwyd ef ym mynwent capel Presbyteraidd High Street, Abertawe.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.