Ganwyd yn Nhredegar 1828, a magwyd yn Abercarn, Mynwy. Hanoedd o ochr ei dad, Nathan Hughes, o blith y 'Teulu' a gasglasai Howel Harris ato'i hun i Drefeca, ac etifeddodd yntau gryn fesur o angerdd defosiynol a chenhadol ei dras. Cychwynodd ei yrfa fel ysgolfeistr, a bu'n cadw ysgol yn Goginan, ger Aberystwyth. Yno cyflwynodd ei hun i'r weinidogaeth, ac yn 1851, drwy berswâd y Parch. Lewis Edwards, aeth i athrofa'r Bala. Wedi tymor byr fel bugail yn Birmingham ac yng Nghemaes, Maldwyn, symudodd, yn 1859, i Frynteg, ym mro Goronwy ym Môn, lle y trigodd weddill ei oes, oddigerth pedair blynedd (1878-82) y bu'n fugail ar eglwys 'Armenia,' Caergybi. Llanwai le blaenllaw yn y sir ynglŷn ag addysg a dirwest, ond y gwaith yr oedd o ran dawn a thueddfryd yn rhagori ynddo ydoedd efengylu. Bu gyda'r gwaith hwn yn ymron bob rhan o Gymru, ac yn arbennig yn yr eglwysi dan ofal cenhadaeth gartrefol y cyfundeb ar y Goror ac yn Lloegr, gan ddwyn bywyd newydd i lu o eglwysi ac ennill lawer o newydd at grefydd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.