HUW PENNAL (fl. 15fed ganrif), bardd

Enw: Huw Pennal
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

brodor, y mae'n debyg, o Bennal yn Sir Feirionnydd. Cadwyd peth o'i waith mewn llawysgrifau, ac yn ei blith gywyddau i'r iarll Wiliam Herbert o Benfro, Dafydd ap Rhys o Langurig, tri mab Ieuan Blaenau o Gregynog, a dau gywydd serch. Ni wyddys unrhyw fanylion am ei fywyd, ond y mae'n amlwg bod y dyddiadau a roir iddo yn Blackwell, a W. Owen, Cambrian Biog., yn rhy ddiweddar.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.