Fe wnaethoch chi chwilio am ifor ceri
Ganwyd 8 Ebrill 1770 mewn fferm o'r, enw Cil-bronnau, plwyf Llangoedmor, Sir Aberteifi. Cafodd addysg mewn ysgol gerllaw; yna aeth i academi Caerfyrddin, ac oddi yno i Goleg Iesu, Rhydychen, a symud oddi yno i Goleg Merton, lle y cafodd ei B.A. yn 1791; yr un flwyddyn urddwyd ef yn ddiacon ac aeth yn gurad tan ei ewythr, y Dr. Lewis, rheithor Whippingham, Ynys Wyth. Yn 1799 aeth yn gaplan ar long ryfel, yr 'Agincourt,' yn y West Indies, ac o honno i long arall, 'Theseus.' Daeth adref i adfer ei iechyd, ac wedi iddo wella, gwnaed ef yn rheithor eglwys Maenor Deifi, Sir Benfro, ac, yn 1807, yn ficer plwyf Ceri, Sir Drefaldwyn, gan Thomas Burgess, esgob Tyddewi. Bu farw 20 Tachwedd 1829.
Adeiladodd bersondy newydd yng Ngheri, a galwyd ef gan y beirdd yn ' Llys Ifor Hael,' canys yr wythnos gyntaf bob blwyddyn yr oedd ei dŷ yn agored i ' bawb a'i cyrchai, os medrai gyfansoddi englyn, lleisio tôn, neu gyweiriaw telyn. ' Yn Awst 1818, daeth yr esgob Burgess i Geri, a phenderfynodd y ddau ' roddi ymgais i ail ennyn dawn ac athrylith farddonol y dywysogaeth … trwy gynnal eisteddfodau cylchynol drwy y pedair talaith. ' Cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf yng ngwesty yr Ivy Bush, Caerfyrddin, ar yr wythfed a'r nawfed o Orffennaf 1819. Dyna gychwyn yr eisteddfod daleithiol. Bu ' Ifor Ceri ' yn gyfarwyddwr ymhob un o'r eisteddfodau hyn tan eisteddfod Dinbych, 1829, a gwelodd eu bod yn raddol yn troi yn Saesneg, yn ' Anglo-Italian farce.'
Ysgrifennodd erthyglau yn The Cambrian Quarterly Magazine a'r Gwyliedydd. Y mae ei lawysgrifau yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ei brif ddiddordeb oedd casglu hen geinciau a hen donau, a chyhoeddodd Jane Williams, Aberpergwm, rai ohonynt yn Ancient Welsh Music a ' Bardd Alaw ' lawer ohonynt yn ei Welsh Harper.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.