Ganwyd yn Blaenau Gwent, sir Fynwy, lle yr oedd yn un o aelodau cyntaf eglwys y Bedyddwyr. Symudodd yn ddiweddarach i Bontypŵl. Cyhoeddwyd Rhai Hymnau … Duwiol gan S. Farley, Bryste, yn 1747. Cyhoeddwyd Amryw Hymnau Dymuniadol a Phrofiadol o'i waith, gydag emynau gan eraill, gan S. Farley, Bryste, yn 1773. (O 1740 hyd 1742 argreffid ym Mhontypŵl lyfrau Cymraeg gan S. Farley ar anogaeth Miles Harry, gweinidog y Bedyddwyr ym Mhenygarn, Pontypŵl.) Cafwyd ail argraffiad yng Nghaerfyrddin yn 1773 a phumed yn 1817; y mae mwy o dduwioldeb nag o farddoniaeth yn yr emynau. Argraffwyd ei 'Cân am Briodas' yn William Secker, Y Fodrwy Briodas (Trevecca, 1791). Ysgrifennodd Benjamin Francis farwnad ar ei ôl, a rhydd Joshua Thomas (Hanes y Bedyddwyr, 1778, 249) glod uchel i Harri Siôn am ddyfnder a diffuantrwydd ei argyhoeddiadau crefyddol. Bu farw 20 Medi 1754 yn 91 oed meddai carreg ei fedd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.