JONES, ANEURIN ('Aneurin Fardd'; 1822 - 1904), llenor

Enw: Aneurin Jones
Ffugenw: Aneurin Fardd
Dyddiad geni: 1822
Dyddiad marw: 1904
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Edgar Phillips

Ganwyd 27 Hydref 1822 yn Nhŷ'r Eglwys, Bedwas, Mynwy, yn fab i John Jones ('Shôn Fardd'), a fu wedyn yn felinydd yn y Gelli-groes, Pontllanfraith. Cafodd addysg dda, a phrentisiwyd ef yn bensaer a pheiriannydd sifil. Dilynodd ei alwedigaeth yn y Gelli-groes, ac wedi marw ei dad cymerth at y felin hefyd, heblaw trin ychydig dir. Daeth yn fore'n adnabyddus fel gŵr hyddysg yn y mesurau caethion, a bu'n athro ac yn gyfaill i ' Islwyn.' Cynhaliai eisteddfodau yn y Gelli-groes; yn un o'r rhain (1850), rhoes 'Ioan Tegid' y wobr i Robert Ellis ('Cynddelw') am ei draethawd Tafol y Beirdd, ond ni chaniatâi Aneurin gyhoeddi hwnnw'n llyfr, 1852, heb iddo ef gael sgrifennu 'rhagdraith' iddo. Beirniadai'n fynych mewn eisteddfodau; ac yn eisteddfod genedlaethol Aberdâr (1861) ef a ddyfarnodd y wobr i 'Ceiriog' am ei fugeilgerdd 'Alun Mabon.' Yn 1861, agorodd swyddfa argraffu, i argraffu'r cylchgrawn Y Bedyddiwr, a daliodd ati am ddwy flynedd a hanner. Drysodd ei amgylchiadau, ac ymfudodd (1864) i America, yn gyntaf i Scranton, yna i Wilkesbarre, ac wedyn i New York. Bu am flynyddoedd yn arolygydd gerddi a pharciau cyhoeddus New York a Brooklyn, ond collodd ei le am resymau politicaidd. Ar hyd y cyfnod hwn, bu'n dyfal lenora yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac yn beirniadu mewn eisteddfodau - daeth yn amhoblogaidd iawn pan ataliodd y gadair yn eisteddfod Chicago (Calan 1890). Dychwelodd at ei alwedigaeth gyntaf, ond gellid meddwl na chafodd ei draed dano; a symudodd i Los Angeles ar addewid (nas cyflawnwyd) o gael arolygiaeth parc yn y ddinas honno. Bu farw 5 Medi 1904, a chladdwyd yn Los Angeles.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.