JONES, EDWARD (1741? - ar ôl 1806), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg yn Llundain,

Enw: Edward Jones
Dyddiad geni: 1741?
Dyddiad marw: ar ôl 1806
Rhiant: John Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

ac un o ddau gychwynnydd eu hachos yno; ond cafodd fwy o enw am ei ffaeleddau nag am ei rinweddau. Cytunir mai gŵr o Lansannan ydoedd, ac uniaetha D. E. Jenkins ef a'r Edward, fab i John Edwards, Arllwyd, a fedyddiwyd 1 Ebrill 1741; cydweddai hyn â'r 'tua 60 oed' a roddir i Edward Jones ddechrau 1801 yng nghofnodion y llys barn. Bu'n filwr yn y ' Life Guards '; daeth dan ddylanwad George Whitefield, a chynghorai yn y Tabernacl; wedi gadael y fyddin, cadwai dafarn, ac yn nes ymlaen yr oedd ganddo fasnach mewn gwirodydd. Nid oes unrhyw awgrym yn erbyn ei fuchedd, ond yr oedd anian unben ynddo; a chan mai ganddo ef yr oedd meddiant capel y Methodistiaid Calfinaidd (1785) yn Wilderness Row, triniai'r gynulleidfa fel teyrn. Diarddelodd ddwy ferch i Daniel Jenkins (mab-yng-nghyfraith i Daniel Rowland) am briodi deuddyn 'o'r byd'; aeth nifer o'i gynulleidfa allan a throi'n Annibynwyr - parodd yr ymrafael gryn drafferth i Thomas Charles a John Elias ac eraill, oblegid ar y naill law yr oedd y ddwy ferch yn ŵyresau i ŵr hybarch yn y cyfundeb, ac ar y llaw arall yr oedd mynych ymweliadau Jones â'r sasiwn (ac, yn wir, ei wasanaeth yn Llundain) wedi ennill iddo barch yr arweinwyr. Buan yr ychwanegwyd at eu hanniddigrwydd. Bu farw gwraig Edward Jones (y priodolir iddi gryn ddylanwad er da arno), ac addawodd yntau (1799) briodi merch ifanc 28 oed; ond ar ymweliad â Chymru yn 1800 ymbriododd â gwraig weddw dda ei byd. Symbylodd pleidwyr Daniel Jenkins y ferch i ddwyn achos tor-amod yn erbyn Jones, a bu'n rhaid iddo dalu £ 50 o iawn (Ionawr 1801). Yr oedd eisoes wedi ennyn gelyniaeth Gwyneddigion a Chymreigyddion Llundain (a'i llysenwai'n ' Ginshop Jones'); cyhoeddasant hwythau bamffled yn cynnwys ei lythyrau caru (a ddarllenwyd ar goedd yn y llys), gyda'r gerdd wawdus ' Gwenno Fach ' gan John Jones, Glan-y-gors. Aeth pethau'n waethwaeth yn Wilderness Row, ac ymadawodd y rhan fwyaf o'r aelodau oddi yno i ymgynnull mewn lle arall; bu'n rhaid i'r sasiwn eu cefnogi ac atal Jones rhag pregethu yn enw'r cyfundeb, onid yn wir ei ddiarddel - yn ddiresymeg braidd, cydiodd Glan-y-gors yn y cyfle hwn eto i ymosod ar y Methodistiaid, y tro hwn am ddiarddel Jones am anufudd-dod i'r ' Babaeth yn y Bala ' (1802). Yn ofer y ceisiodd John Elias ac eraill gael gan Edward Jones roi'r capel i fyny, ond o'r diwedd (1806) llwyddodd Ebenezer Morris i'w gael allan o'i ddwylo. Dywedir iddo wedyn ddychwelyd i Gymru i fyw; ond nid oes gennym fanylion pellach yn ei gylch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.