Ganwyd yng Nghaerbachau, Llanerfyl, yn fab i Evan ac Elizabeth Jones; yr oedd yn nai i Hugh Jones, Maesglasau ar ochr ei dad, a'i fam yn ferch i Evan Jones, 'Telynor Waun Oer'.
Gan ei fod yn grupil, addysgwyd ef yn dda, modd y gallai fyw trwy gadw ysgol; yr oedd yn llenor da, ac enillodd wobr yn eisteddfod Biwmares (1832) am draethawd ar gystrawen y Gymraeg. Mae NLW MS 1805E yn cynnwys llythyron oddi wrtho, ac NLW MS 1899C yn cynnwys ei farddoniaeth.
Ym mlynyddoedd diwethaf ei oes, bu'n gofalu am y gwaith o argraffu llyfrau Cymraeg yng Nghaerlleon Fawr dan Edward a John Parry. O 1835 hyd ddiwedd 1840 golygai'r Gwladgarwr, ac yr oedd yn un o gyfieithwyr Y Beibl Darluniadol, 1844-7, a gyhoeddwyd gan 'Ieuan Glan Geirionydd.'
Bu farw 25 Mai 1858, yn 69 oed; claddwyd yn Llanerfyl.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.