Ganwyd yn Plas Gwyn, Pentraeth, sir Fôn, 2 Mehefin 1650, mab Rowland Jones a Margaret, merch John Williams, Chwaen Issa, Llantrisant, Môn. Ymbriododd ŵyres ei frawd a Paul Panton, yr hynafiaethydd a pherchennog llawysgrifau a drosglwyddwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol. Wedi graddio yn 1668 (D.D. 1689 a M.D. 1679; Venn, Alumni Cantabrigienses) yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, derbyniodd urddau eglwysig a chafodd fywoliaeth Rhoscolyn a chapelyddiaethau Llanfair-yn-Neubwll a Llanfihangel-yn-Nhowyn yn 1672. Gwnaed ef yn drysorydd yr eglwys gadeiriol a rheithor Llandecwyn a Llanfihangel-y-Traethau yn 1673, a chafodd Llandegfan yn 1683 ac Aber yn y flwyddyn ddilynol. Ar gymhelliad yr esgob Humphrey Humphreys derbyniodd y ddeoniaeth yn 1689, ynghyd â bywiolaethau Gyffin, Llanfihangel Ysgeifiog, a Llanffinan a gysylltid â'r swydd hon. Cafodd hefyd brebend Llanfair yn esgobaeth Llanelwy yn 1696 a rheithoraeth Llanllechid yn 1699.
Fe'i penodwyd yn ohebydd y S.P.C.K., ac edrychir arno fel arloeswr mawr yr ysgolion elusennol yng Ngogledd Cymru. Sylfaenai a gwaddolai ysgolion yn y plwyfi y daliai gysylltiad â hwy, a threfnai mai yn Gymraeg y dysgid Catecism Eglwys Loegr a thestunau eraill. Bu'n foddion i ddosbarthu llyfrau Cymraeg ymhlith ei blwyfolion, a chynorthwyai yn y gwaith o sefydlu llyfrgelloedd plwyfol ac esgobaethol. Yn ei atebion i ymofynion ymweliadol yr esgob ceid gwybodaeth am waddoliadau Ysgol y Friars ym Mangor a'r addysg a gyfrennid ynddi. Cydnebydd Browne Willis y cymorth a gafodd gan y deon, a oedd yn hynafiaethydd medrus, i chwilio allan hynafiaethau eglwys gadeiriol Bangor. Cynnwys ewyllys Dr. John Jones roddion hael i blwyfi neilltuol at addysgu plant tlawd; gwyddom am o leiaf naw o ysgolion a sefydlwyd ganddo neu a elwodd arno. Bu farw (yn ôl ei faen coffa) 27 Hydref 1727; profwyd ei ewyllys (ddyddiedig 10 Mawrth 1719) ar 29 Tachwedd 1727.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.