Ganwyd yng Nghaernarfon. Symudodd i Gaergybi a bu'n cyd-olygu 'r Pwnsh Cymraeg yno â'i gyd- argraffydd Evan Jones (Evan Jones, Caernarfon, wedi hynny). Symudodd drachefn i Lerpwl, a daeth yn un o brif arweinwyr y Mudiad Gwladfaol.
Anfonwyd ef a'r Capt. Love Jones-Parry i archwilio Patagonia yn 1862, a dychwelodd gydag adroddiad wedi ei orliwio nes bod yn anghywir, a pherswadio'r Cymry i fentro yno. Anfonwyd ef ac Edwyn Cynrig Roberts drosodd i baratoi'r lle i'r fintai gyntaf. Siomwyd yr ymfudwyr, bu cweryl, ac ymhen tri mis ymadawodd yntau i Buenos Aires, lle bu'n gweithio am ddeunaw mis fel argraffydd.
Pan glywodd fod y Cymry yn bwriadu gadael Patagonia yn 1867, aeth i lawr atynt, a thrwy ei ddawn areithyddol arbennig, fe'u perswadiodd i aros yno. Bu'n brwyad (rhaglaw) ym Mhatagonia dros Lywodraeth Ariannin am gyfnod byr - yr unig Gymro a ddaliodd y swydd erioed. Eithr bu yng ngharchar droeon hefyd dros hawliau'r Cymry. Daeth â gwasg argraffu yno, a chychwynnodd ddau bapur newydd, sef Ein Breiniad, 1878, a'r Drafod, 1891; cyhoeddir yr olaf yno hyd heddiw. Yn ystod ei ymweliad â Chymru yn 1885 bu'n annerch y Cymmrodorion, a chyhoeddwyd ei ddarlith. Cyhoeddwyd ei lyfr, Y Wladfa Gymreig, yn 1898.
Bu iddo ddwy ferch: un ohonynt oedd Eluned Morgan a'r llall yn briod â Llwyd ap Iwan, mab Michael D. Jones. Bu Lewis Jones yn arweinydd dewr yn y Wladfa am 35 mlynedd, ond torrodd ei galon pan ddifethwyd y wlad gan y gorlif yn 1899. Bu farw 24 Tachwedd 1904 yn 68 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.