Ganwyd Edwyn Cynrig Roberts ar 28 Chwefror 1837, cyntaf-anedig John Kendrick (1809-1839), ffermwr, a Mary Hughes (1809-1892), ar fferm Bryn, rhwng pentrefi Cilcain a Nannerch, Sir y Fflint. Dengys cofnod ei fedydd dyddiedig 14 Mawrth 1837 yng nghapel annibynnol Ebeneser, Rhes-y-cae, plwyf Helygain, iddo gael ei enwi yn Edwin Hughes Kendrick.
Yn fuan wedi genedigaeth ail fab, John, yn Ionawr 1839, bu farw John Kendrick. Ail-briododd Mary ymhen yrhawg ag amaethwr arall o'r fro, David Roberts ac ychwanegwyd ei gyfenw yntau at enwau ei meibion hi. Yn dilyn genedigaethau Thomas (1842) a Peter (1843), ymfudodd y teulu ym Mai 1847 i'r UDA, gan ymsefydlu tua deng milltir i'r de-orllewin o dref Oshkosh yn nhalaith Wisconsin. Yno y ganwyd Josiah (1849), David (1851) ac Annabella (1853).
Mabwysiadodd Edwyn sillafiad Cymreig ei enw a ffurf Gymreig ei gyfenw (gwelir Cynric a Cyndrig mewn rhai ysgrifau a chyhoeddiadau), a'i droi yn enw canol iddo'i hun. Nid oes sôn iddo erioed ddefnyddio cyfenw ei fam yn unrhyw fersiwn o'i enw, ond ei Chymreictod hi fu'r dylanwad pennaf a'r mwyaf parhaol ar Edwyn.
Bu syniadau gwladgarol a dyngarol y Parch. Michael D. Jones hefyd yn ddylanwad cryf ar Edwyn yn ei lencyndod yn sgil ymweliad Jones â'r Unol Daleithiau ym 1848 pryd y sefydlodd Cymdeithas y Brython. Agorwyd cangen o'r gymdeithas yn Oshkosh, a sefydlodd Edwyn, ynghyd â thri o'i gyfeillion, gymdeithas drafod gynta'r ardal, a fu'n gyfrwng iddo ddatblygu ei ddawn fel siaradwr cyhoeddus effeithiol. Ysgogwyd ef yn gynnar i freuddwydio am wlad lle medrai ei gydwladwyr fyw fel Cymry, yn genedl gref o dan faner y Ddraig Goch, ar dir fyddai'n eiddo iddynt heb ymyrraeth, yn gydradd â phob cenedl arall, a dyna fu byrdwn parhaus ei genhadaeth ddiflino.
Ymunodd yn ddeunaw oed (1855) â charfan o Gymry a anelai at feysydd aur Camptonville, yng ngogledd-orllewin talaith California, lle y trefnwyd cynhadledd gyda'r bwriad o sefydlu Cymdeithas Drefedigol Gymreig. Cynhaliodd ei hun drwy weithio yn y meysydd aur, profiad a fu'n ysgogiad iddo mewn cyfnodau diweddarach. Sylweddolai y byddai angen cynhyrchu cyfalaf i gynnal y Wladfa arfaethedig hyd nes y deuai yn hunangynhaliol. Er bod llawer o leoliadau wedi'u hawgrymu, cytunodd y cynadleddwyr mai Patagonia fyddai'r nod, oherwydd nad oedd Ewropeaid wedi ymsefydlu yno a'i bod hi'n ddigon pell o ddylanwad y Saesneg, iaith a ystyrid yn fygythiad i barhad y Gymraeg. Dyma'r tro cyntaf i enw'r rhanbarth bellennig honno gael ei grybwyll at y pwrpas yn gyhoeddus.
Wedi dychwelyd i Wisconsin, taflodd ei hun i ganol yr ymgyrch i ennill cefnogaeth, ac erbyn canol 1860 teimlai'n ddigon hyderus i anfon llythyr at ddarllenwyr Y Faner yn hysbysu bod cais wedi'i wneud am dir i sefydlu gwladychfa ym Mhatagonia, 'a hynny yn ddi-oed'. Cafwyd addewid o long, a denwyd nifer sylweddol o geisiadau - y cyfan o'r UDA - am le arni. Eithr pan gyrhaeddodd y dydd i godi angor, nid oedd sôn amdani, a chwalodd y fintai. Ymatebodd Edwyn drwy gyhoeddi'n herfeiddiol ei fod am fentro 'ar ei ben ei hun', a daeth Cymry Oshkosh at ei gilydd i gynnal 'cyfarfod ymadawol y Cymro cyntaf gychwynnodd tua Patagonia'.
Perswadiwyd ef yn Swyddfa 'Y Drych' yn Efrog Newydd i newid ei docyn am un i Lerpwl ac ymuno â Chymdeithas Wladychfaol y ddinas honno. Gwahoddodd Michael D. Jones y 'llanc gwridgoch divarv', i annerch cyfarfod yn Hope Hall. Yno gwelodd Lewis Jones ef y am y tro cyntaf. Yn ddiweddarach, penodwyd ef yn Ysgrifennydd Teithiol y mudiad a'i anfon i ymgyrchu ledled y wlad. Dechreuodd yn y de, lle rhoddodd Forgannwg 'ar dân' yn ôl Lewis Jones, cyn symud ymlaen i wneud yr un peth mewn siroedd eraill ar ei ffordd i'r gorllewin ac yn ôl i'r gogledd. Cofiai Thomas Jones, Glan Camwy, am y pennill canlynol, a genid 'ar yr heolydd':
'O Edwin, O Edwin, amdanat mae sôn
O waelod Sir Benfro i ben ucha' Sir Fôn;
Mae'th eiriau fel trydan, a'th araith fel tân;
Mae trais ac mae gormes yn crynu o'th fla'n'.
Methiant fu'r apêl am arian, a rhoddwyd y gorau i'r ymgyrch. Gorfu i Edwyn chwilio am waith, a chynhaliodd ei hun drwy weithio ym mhwll glo Ince Hall, Wigan, oedd yn eiddo i Robert James, perthynas iddo a ddaeth yn un o ymddiriedolwyr y Gymdeithas. Yn ystod y cyfnod hwn, ymunodd Edwyn â'r Lancashire Rifle Volunteers 'i ddysgu milwra erbyn y byddai angen ar y Wladychfa'.
Wedi i Senedd yr Ariannin wrthod cais y Gymdeithas Wladychfaol i sefydlu Gwladfa Gymreig ym Mhatagonia, cynigiodd Dr. Guillermo Rawson, y Gweinidog Cartref, diroedd yno y medrai unigolion ymsefydlu arnynt. Cadarnhaodd y gymdeithas mai yno fyddai lleoliad y sefydliad newydd, hysbysebwyd y cynllun, gwahoddwyd ymgeiswyr am le ar y fintai gyntaf, ac ail-ymunodd Edwyn â'r ymgyrch. Ym Mawrth 1865, anfonwyd ef a Lewis Jones i Buenos Aires i gadarnhau'r trefniadau gyda'r Llywodraeth cyn symud i'r Bae Newydd i baratoi ar gyfer dyfodiad yr ymfudwyr. Siomwyd hwy pan gydnabu Dr. Rawson na fedrai gyflawni ei addewid o gymorth oherwydd bod y wlad mewn rhyfel drudfawr yn erbyn Paraguay.
Safai Edwyn a Lewis ar drothwy cyfres o drafferthion fyddai'n llesteirio'u hymdrechion ac yn creu rhwyg poenus yn arweinyddiaeth y Wladfa yn gynnar yn ei hanes. Heb yn wybod iddynt, torrodd perchnogion yr Halton Castle eu cytundeb, a gorfu i M. D. Jones a'i bwyllgor chwilio am long arall a gohirio mordaith y fintai am fis. Canlyniad trychinebus y penderfyniad anorfod hwn oedd na fedrai'r gwladfawyr gyrraedd mewn pryd i'r tymor hau - ac na fyddai'r cyflenwadau arfaethedig yn ddigonol i'w cynnal trwy'r cyfnod estynedig. Doedd neb wedi rhag-weld y byddai hynny, yn ei dro, yn condemnio'r fintai i dlodi a newyn am o leiaf blwyddyn ac yn creu gwrthdaro rhyngddi a'i harweinyddion.
Wedi cyrraedd Patagones (treflan fwyaf deheuol yr Ariannin ar y pryd) ar 24 Mai 1865, gorfu i'r ddau Gymro oedi am bythefnos cyn cael yr holl angenrheidiau at ei gilydd. Yna, ynghyd ag wyth o weision a gyflogwyd yn y dref - yn cynnwys eu harweinydd, Frank (Jerry) Ames, dyn o dras Gwyddelig ac Asiaidd - hwyliasant tua'r Bae Newydd a glaniodd y Juno wrth Benrhyn yr Ogofâu ar 14 Mehefin. Hyd y gwyddai'r ddau, dim ond tua phythefnos oedd ganddynt i gael y gwersyll yn barod ar gyfer derbyn yr ymfudwyr. Codwyd corlannau amrwd i ddiogelu'r anifeiliaid a dim ond Edwyn a adawyd ar y lan i'w gwarchod dros nos.
Dychwelodd Lewis Jones i Patagones ar 5 Gorffennaf i gasglu mwy o goed i gwblhau'r cabanau, ac aeth â phedwar o'r gweision gydag ef - gan roi cychwyn ar gyfnod o dair wythnos hynod brysur (a hunllefus ar adegau) i Edwyn, pryd y bu'n rhaid iddo arwain y gwaith ar ei ben ei hun ac efo llai o ddwylo. Wedi iddo anfon Jerry i chwilio am ddŵr, dechreuodd dyllu ffynnon gyda chymorth y tri gwas oedd ar ôl. Gynted ag yr oedd wedi cloddio'n ddigon dwfn, codasant y rhaffau a gadawsant ef ar y gwaelod fel protest am gael eu gorweithio. Yn ffodus, dychwelodd Jerry ymhen tridiau mewn pryd i'w waredu. Yn ddiweddarach, rhoddwyd y dynion ar waith i ddechrau clirio ffordd o'r bae i'r afon.
Cyrhaeddodd Lewis Jones yn ôl i'r bae ar 24 Gorffennaf, gyda'r newydd mai'r Mimosa oedd y llong a gludai'r fintai. Pan ollyngodd honno angor dridiau yn ddiweddarach, ychydig cyn i'r haul fachlud, safai Edwyn a'r gweision ar y penrhyn yn chwifio'r Ddraig Goch i'w chroesawu.
Ar 1 Awst arweiniodd Edwyn y garfan gyntaf o lanciau i fentro croesi anialdir caregog a sych er mwyn cyrraedd hen amddiffynfa a adeiladwyd tua degawd ynghynt ger afon Camwy (drwy gyd-ddigwyddiad diddorol, gan ŵr busnes o Gymro, Henry Libanus Jones). Yn ogystal ag agor y ffordd rhwng y llwyni pigog a thal ar gyfer y carfannau fyddai'n eu dilyn (sef y bugeiliaid a'r adeiladwyr), eu prif gyfrifoldeb oedd torri coed ar gyfer codi 'tai'. Diffygiodd y bechgyn o un i un a dim ond dau lwyddodd i gyrraedd gydag Edwyn i ben y daith liw nos y trydydd dydd. Y diwrnod canlynol amgylchynwyd yr amddiffynfa gyda'r bwriad o'i chipio o afael y brodorion, ond canfuwyd ei bod hi'n wag. I ddathlu, enwodd Edwyn hi yn Caer Antur. Roedd R. J. Berwyn o'r farn mai i'r ymarferion milwrol a gynhaliai Edwyn y dylid diolch am yr ateb i'r prinder bwyd, trwy iddynt 'feithrin lliaws yn saethwyr medrus'.
Ar 19 Ebrill 1866, priododd Edwyn ag Ann Jones, Aberpennar gynt, gan ymsefydlu ar ei fferm, Plas Heddwch (Plas Hedd wedyn, cyn iddo ei gwerthu i Lewis Jones). Mae llythyrau Cadfan ac eraill yn adrodd am lwyddiant Edwyn i dyfu cnydau. Mewn ymgais i gynorthwyo'r lliaws di-brofiad, o bosib, rhedodd ffermydd cydweithredol gyda dyrnaid o'r gwladfawyr ifainc, a cheir adroddiadau amdano yn estyn cymorth i eraill llai ffodus, hyd yn oed pan oedd yntau ei hun yn newynu. 'Duw yn unig wyr gymaint ddioddevodd Edwyn Roberts y pryd hwnnw' meddai Lewis Jones 'nid yn unig oblegid ei gylla gwag ei hun, ond oblegid y wasgva oedd ar [y] Wladfa. Andwyodd ei gyvansoddiad drwy ddioddev yn ddistaw a cheisio ymsirioli ddweyd wrth bawb ei bod "yn iawn" arno. Daeth y dioddev hwnnw yn ail natur iddo, a chelu ei ovidiau yn rhan o'i grevydda'.
Yn 1871, teithiodd Edwyn gyda dau gynorthwyydd i chwilio am aur yn ardal Kel-Kein (Dyffryn y Merthyron wedi hynny), ac yn ystod y daith aflwyddiannus hon darganfu bod osgoi glannau troellog a chreigiog yr afon trwy groesi pedwar deg a phum milltir o baith anial a di-ddŵr yn cwtogi pythefnos trafferthus o'r siwrne i'r gorllewin. Gelwir y rhan hon o'r ffordd rhwng y dyffryn a'r Andes yn Hirdaith Edwyn hyd heddiw.
Wedi ei ymweliad â Chymru (ac oddi yno i'r UDA i gyfarfod am y tro olaf â'i fam a'i frodyr) yn 1875 'daliodd i ffermio ar raddfa eang, nes llenwi ei boced lawer gwaith. Ond gŵr bonheddig o reddf ydoedd a thra oedd ganddo ef, ni fyddai eisiau ar arall', cofiai Berwyn.
Ym 1891, perswadiwyd ef i roi ail gynnig ar yr ymchwil am aur - y tro hwn ar fynydd yn yr Andes sydd ers hynny yn cario'i enw, 'Mynydd Edwin'. Bu hon yn fenter a ymddangosai yn addawol am beth amser, gan greu cryn gynnwrf a chodi llawer o obeithion ymhlith trigolion Dyffryn Camwy. Er mwyn ei hyrwyddo a denu buddsoddwyr, teithiodd eto i Gymru, a'r tro hwn manteisiodd ar y cyfle i ddod â'i deulu gydag ef er mwyn i'w blant gael adnabod hen wlad eu tadau a derbyn rhywfaint o addysg safonol. Ymgartrefodd y teulu ym Methesda, Sir Gaernarfon.
Manteisiodd hefyd i gyhoeddi cyfrol gyntaf cyfres a fwriadai ei hysgrifennu ar hanes sefydlu'r Wladfa. Mae ôl brys a diffyg cynllunio a golygu arni ond ynddi darllenir y sylw manwl cyntaf erioed am fwriad uchelgeisiol Morgan John Rhys i sefydlu talaith Gymreig hunanlywodraethol yn yr UDA. Yna, ar 17 Medi 1893, bu farw Edwyn o drawiad ar y galon. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol ddeuddydd yn ddiweddarach yn Eglwys y Santes Ann, Bethesda, a rhoddwyd ei weddillion i orffwys ym mynwent yr eglwys honno, ar odre Mynydd Llandygái.
'Vel hyn y bu byw, ac fel hyn y bu varw, ynghanol ei obeithion a'i gynlluniau', meddai Abraham Matthews. 'Byddai yn proffwydo am bethau da i ddyfod pan nad oedd neb arall yn gweled dim ond anfanteision a rhwystrau ac, fel rheol, byddai ei holl ragfynegiadau yn dod i ben... Byddai bob amser yn siriol mewn cymdeithas ac yn hynod galonnog. Yr oedd o ysbryd heddychol ac yn casáu pob cynnen a chynnwrf … Byddai ganddo ddywediadau priodol iddo ei hun, a byddai rhyw swyn yn ei ddull ef o'u dweud fel y byddai y lliaws yn myned i'w harfer … Byddai ganddo ddull nodweddiadol iawn ohono ei hun i ateb y cyfarchiad "Sut yr ydych chwi heddiw, Edwyn Roberts?" a'i ateb oedd "Campus i'r byd mawr", a rhoddai bwyslais cryf ar y "campus". Aeth yr ymadrodd yna bron yn un cyffredinol, yn enwedig y gair "campus".' A dichon mai 'campus' yw'r ansoddair mwyaf addas i gloriannu cyfraniad Edwyn i'r broses o adeiladu gwladfa ei freuddwydion.
Dyddiad cyhoeddi: 2020-07-13
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.