Erthygl a archifwyd

MATTHEWS, ABRAHAM (1832 - 1899), gweinidog (A) ac un o arloeswyr y Wladfa ym Mhatagonia

Enw: Abraham Matthews
Dyddiad geni: 1832
Dyddiad marw: 1899
Priod: Gwenllian Matthews (née Thomas)
Rhiant: Ann Jones
Rhiant: John Matthews
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (A) ac un o arloeswyr y Wladfa ym Mhatagonia
Maes gweithgaredd: Crefydd; Teithio
Awdur: David Leslie Davies

Ganwyd yn Llanidloes, Trefaldwyn, Tachwedd 1832 yn fab i John Matthews, gwehydd, ac Ann Jones, ond magwyd ef gan Edward ac Ann Lewis, amaethwyr cyfagos a symudodd i Flaencwmlline, plwyf Cemaes. Yn 12 mlwydd oed prentisiwyd ef i ffatri yng Nghwmlline am dair blynedd, ac yna bu'n grefftwr o gwmpas Maldwyn a de Meirionnydd. Yn 22 oed, penderfynodd ei gynnal ei hun fel myfyriwr gyda meistr ysgol Frytanaidd Cemaes am na chafodd addysg ffurfiol pan oedd yn blentyn. Gadawodd Eglwys Llanwnnog (A), lle y bu'n aelod ers pan gafodd dröedigaeth yn 17 mlwydd oed, ac ymunodd ag Eglwys Samah (A). Dechreuodd bregethu yno cyn mynd i Goleg y Bala (1856-59) a dod o dan ddylanwad Michael D. Jones. Ordeiniwyd ef yn weinidog Horeb, Llwydcoed (1859-65) ac Elim, Cwmdâr (cwm Cynon, 1859-60), a bu'n weinidog Adulam, Merthyr Tudful (1861-65). Priododd yng nghapel Ynys-gau, Merthyr, Mai 1863, â Gwenllian Thomas, chwaer i un o brif ffigurau'r Wladfa, John Murray Thomas.

Ni fennodd ei fywyd cyhoeddus ddim ar yr awch gwladfaol a fuasai ynddo ers pan fu wrth draed M.D. Jones. Felly, ym mis Mai 1865 ymddiswyddodd o'i ofalaethau i ymuno â'r fintai gyntaf a hwyliodd ar y Mimosa o Lerpwl y mis hwnnw i gychwyn gwladfa Gymreig ym Mhatagonia. Cyrhaeddodd New Bay ar 28 Gorffennaf 1865 a glanio ym Mhorth Madryn. Bu'n fain arnynt oll, a bu Matthews yn 'beryglus wael' ar ôl croesi'r paith rhwng Porth Madryn a Dyffryn Camwy. Aeth pethau mor galed yn niwedd 1866 fel yr aeth Matthews a saith gŵr arall i Buenos Aires i geisio cymorth y llywodraeth i symud y Cymry i dalaith Santa Fe. Pwysodd y gweinidog cartref, Dr. Rawson, arnynt i dreulio blwyddyn arall ar lan Camwy, ac yn Ebrill 1867 dychwelodd tri o'r wyth i holi barn eu cyd- Gymry ar hyn. Yr oedd Edwyn Roberts ac R.J. Berwyn am aros; ond credai Matthews mai doeth fyddai symud. Cytunai mwyafrif y sefydlwyr ag ef, ac anfonwyd y tri yn ôl i'r brifddinas i geisio llong i'w cymryd oll oddi yno. Yn nhreflan Patagones digwyddodd iddynt gyfarfod â Lewis Jones, a berswadiodd Matthews i newid ei feddwl a dychwelyd i Ddyffryn Camwy. Darbwyllodd ef y mwyafrif i aros yno am flwyddyn arall ac ef ar yr awr dyngedfennol honno a achubodd y fenter rhag chwalu. Erbyn hynny ef oedd y prif (os nad yr unig) ŵr cyhoeddus yno. Cynhaliai ei deulu trwy amaethu; ond ymroes o'i wirfodd am flynyddoedd i fugeilio eglwysi Ddyffryn Camwy, yn enwedig rhai Trerawson, Glyn Du, Moriah a Thair Helygen. Dywedir mai'r unig dâl a gafodd am ei weinidogaeth i'r fintai gyntaf oedd eu cymorth i amgau'r tir wrth drofa'r afon lle'r ymsefydlodd. Galwodd ei gartref yn ' Barc yr Esgob ', a chyfeirid ato ef fel ' esgob y Wladfa '.

Gwelai'r angen am waed ac ysbryd newydd os oedd gwladfa Patagonia i barhau. Aeth i Gymru yn Ionawr 1873, i T.U.A. ym mis Awst, ac i Gymru eilwaith ym mis Tachwedd hyd Ebrill 1874 i ddarlithio ac ailennyn y tân gwladfaol. Canlyniad hyn fu codi dwy fintai yn 1874, y naill yn cael ei gludo gan yr Electric Spark o Efrog Newydd (33 person) a'r llall gan yr Hipparchus o Lerpwl (49 person); a hefyd finteoedd o Gymru yn 1875 a ddaeth â 500 o ymfudwyr i atgyfnerthu'r sefydlwyr gwreiddiol a threblu'r boblogaeth. Ymwelodd â Chymru ddwywaith eto yn 1889-90 ac 1891-94 pryd yr ymgymerodd â gofal Capel Severn Road, Caerdydd (1893) ac ysgrifennu Hanes y wladfa yn Patagonia (1894). Hon yw cyfrol fwyaf cynhwysfawr a gwrthrychol y cyfnod ar y pwnc.

Bu'n aelod o'r Cyngor cyntaf a etholwyd i'r Wladfa ac yn un o'i llefarwyr allweddol wrth drafod â Buenos Aires, a bu ar bwyllgor Oneto (cynrychiolydd llywodraeth Ariannin) er rheoli cymorth i'r Wladfa yn 1875-76. Bu'n hwb cyson i gychwyn ysgolion elfennol Cymraeg yn Nyffryn Camwy a bu'n ynad heddwch deirgwaith. Yr oedd yn aelod hefyd o'r pwyllgor a lywiodd safiad y Cymry yn erbyn gorchymyn y llywodraeth ganol ar i bob brodor dros 18 oed ddrilio ar y Sul; a chafodd ei restio ynghyd â gweddill y pwyllgor gan swyddogion lleol yn Chwefror 1899 o'r herwydd. Ef oedd golygydd Y Dravod, 1896-99. Bu farw 1 Ebrill 1899 a chladdwyd ef ym mynwent Moriah lle bu'n weinidog am ugain mlynedd. Gadawodd weddw, ddau fab a dwy ferch.

Ŵyr iddo yw'r hanesydd Matthew Henry Jones, Trelew, awdur dwy gyfrol ar hanes y ddinas honno: Trelew: un desafio Patagonico (1981 ac 1989).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd Frig y dudalen

MATHEWS, ABRAHAM (1832 - 1899); gweinidog, arloeswr, a llenor

Enw: Abraham Mathews
Dyddiad geni: 1832
Dyddiad marw: 1899
Priod: Gwenllian Matthews (née Thomas)
Rhiant: Ann Jones
Rhiant: John Matthews
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog, arloeswr, a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Teithio
Awdur: Richard Bryn Williams

Ganwyd yn Llanidloes yn 1832. Bu yng Ngholeg Annibynnol y Bala dan M. D. Jones, 1856-9. Ordeiniwyd ef yn weinidog Horeb, Llwydcoed, Aberdâr, yn 1859, a bu yno bum mlynedd. Priododd yn 1863. Aeth i'r Wladfa gyda'r fintai gyntaf yn 1865, a llafuriodd yn galed yno fel gweinidog ac amaethwr weddill ei oes. Bu'n un o'r arweinwyr dycnaf yn y cyfnod cyntaf. Ymwelodd â Chymru a'r Unol Daleithiau yn 1874, a llwyddodd i gasglu mintai o'r naill le a'r llall i fentro i'r Wladfa. Yn ystod ei ymweliad â Chymru 1893-4 bu'n gofalu am eglwys Canton, Caerdydd, ac ysgrifennodd ei lyfr ar hanes cynnar y Wladfa, Hanes y Wladfa Gymreig (Aberdâr). Hwn yw'r llyfr tecaf a diogelaf ar hanes cynnar y Wladfa. Bu'n golygu 'r Drafod 1896-9. Bu farw 1 Ebrill 1899, a'i gladdu ym mynwent Moreia; dadorchuddiwyd tabled i'w goffadwriaeth yn y capel hwnnw yn 1949.

Awdur

  • Y Parchedig Richard Bryn Williams, (1902 - 1981)

    Ffynonellau

  • Y Dravod, Mai 1949
  • W. M. Hughes, Ar Lannau'r Camwy, 173
  • R. Bryn Williams, Lloffion o'r Wladfa ( Dinbych 1944 ), 23-5
  • R. Bryn Williams, Rhyddiaith y Wladfa ( Dinbych 1949 ), 22, 32-3

    Dolenni Ychwanegol

  • Wikidata: Q589424

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.