Dechreuodd cysylltiad teulu Kenyon â Chymru gyda phriodas (c. 1694) THOMAS KENYON (1668 - 1731), pedwerydd mab ROGER KENYON, Peel, Lancashire, a Catherine (ganwyd 1660), merch ac aeres Luke Lloyd (bu farw 1695), Bryn, plwyf Hanmer, Sir y Fflint; yr oedd teulu Luke Lloyd wedi ymsefydlu yng nghantref Maelor Saesneg ers blynyddoedd lawer ac yn hawlio eu bod yn disgyn o Rodri Mawr. Bu Luke Lloyd yn ymladd ym mhlaid y Senedd yn y Rhyfel Cartrefol; y mae llythyrau a ysgrifennwyd ganddo ac ato yn 1644 wedi eu cadw. Rywbryd yn ystod teyrnasiad Siarl II cafodd ei garcharu gyda Philip Henry am anghydffurfio.
Mab hynaf Thomas a Catherine Kenyon oedd
Ganwyd 17 Mawrth 1696, cafodd ei addysg yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, a phriododd, ym mis Tachwedd 1730, Jane, merch a chyd-aeres Robert Eddowes, Eagle Hall, sir Gaer, ac Anne, merch ac aeres y Parch. Richard Hilton (bu farw 1706), Gredington, ficer Hanmer, 1662-1706. Prynodd Hilton Gredington gan Syr John Hanmer ar 9 Mai 1678, ac ymddengys i deulu Kenyon symud yno yn gynnar wedi i'r ficer farw yn 1706.
Ail fab Lloyd Kenyon I, ganed yn Gredington ar 5 Hydref 1732. Cafodd ei addysg yn ysgol Rhuthyn, ac fe'i rhwymwyd (1749) i ddysgu'r gyfraith gyda rhyw Tomkinson, cyfreithiwr yn Nantwich (Caerlleon). Ar 7 Tachwedd 1750 cafodd ei dderbyn gan y Middle Temple, eithr parhaodd ei gysylltiad â Tomkinson hyd nes yr aeth i Lundain yn 1755. Ar ôl dyfod yn fargyfreithiwr (7 Chwefror 1756), bu'n dibynnu gan mwyaf ar flwydd-dâl o £80 a gâi gan ei dad ac ar hynny o waith a gâi gan Tomkinson a chymdogion caredig eraill, hyd y daeth i adnabod Edward Thurlow, a wnaethpwyd yn arglwydd ganghellor ychydig yn ddiweddarach; yr oedd Thurlow yn falch o gael help 'gwas' a oedd mor drylwyr ac mor barod i ymboeni ag yr oedd Kenyon. Yn fuan wedi hynny daeth Kenyon i gael enw da fel bargyfreithiwr, ac ar gymhelliad Thurlow fe'i gwnaethpwyd yn ' King's Counsel ' (30 Mehefin 1780). Cymerodd y llw fel prif farnwr Caer, Fflint, Dinbych, a Threfaldwyn ar 4 Awst; ar 13 Tachwedd fe'i galwyd i fainc y Middle Temple. Ym mis Medi yr un flwyddyn etholwyd ef yn aelod seneddol dros Hindon, Wiltshire, a pharhaodd i gynrychioli'r etholaeth honno hyd 1784 pryd y daeth yn aelod dros Tregony a gynrychiolodd hyd nes y'i dyrchafwyd i fod yn farwn. Ym mis Mawrth 1782 dewiswyd ef yn ' Attorney General,' swydd a lanwodd bron yn ddiball hyd nes y daeth yn ' Master of the Rolls ' ar 30 Mawrth 1784. Gwnaethpwyd ef yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ar 12 Ebrill ac yn farwnig ar 28 Gorffennaf 1784. Dilynodd yr arglwydd Mansfield fel prif farnwr Llys Mainc y Brenin ar 4 Mehefin 1788, a gwnaethpwyd ef yn farwn ar y nawfed dydd o'r un mis; ei deitl oedd ' Lord Kenyon, Baron of Gredington, co. Flint.'
Yn ystod ei yrfa hir fel bargyfreithiwr bu â fynnai'r arglwydd Kenyon 1af â llawer o dreialon neu achosion diddorol-bu'n arwain y bargyfreithwyr a fu'n amddiffyn Lord George Gordon yn 1780, fel barnwr efe oedd llywydd y llys pan wŷsiwyd Stockdale am athrod yn 1789, a bu am gyfnod yn llywydd y llys a fu'n barnu Warren Hastings.
Yr oedd yn arglwydd-raglaw sir y Fflint, 1796-8, ac yn ' Custos Rotulorum ' y sir o 1796 hyd ei farwolaeth. Priododd, 16 Hydref 1773, yn Deane, sir Lancaster, ei gyfnither Mary, trydedd merch George Kenyon, Peel, a'i wraig Peregrina, merch ieuengaf a chyd-aeres Robert Eddowes; bu iddynt dri mab - LLOYD (1775 - 1800), GEORGE (1776 - 1855), a THOMAS (1780 - 1851). Bu farw ar 4 Ebrill 1802 yn Bath, a dilynwyd ef gan ei ail fab
Cafodd ei addysg yn ysgol Harrow ac yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen (B.A. 1797, M.A. 1801, D.C.L. 1814). Daeth yn 'Custos Brevium' Llys Mainc y Brenin, yn fargyfreithiwr yn 1793 (o'r 'Middle Temple'), yn 'Bencher' 1811, yn 'Reader' 1815, ac yn drysorydd 1823. Priododd, 1 Chwefror 1803, Margaret Emma (1785 - 1815), merch Syr Thomas Hanmer, barwnig, a Margaret, merch a chyd-aeres George Kenyon, Peel, unig fab ac aer George Kenyon, Peel; bu iddynt dri mab a thair merch. Yr oedd yn un o is-lywyddion cyntaf y ' National Society,' ac adeiladodd y ' Madras School ' yn Penley, Sir y Fflint, yr ysgol gyntaf i'w hagor yng Nghymru gan y gymdeithas honno. Bu farw yn Gredington, 25 Chwefror 1855, a dilynwyd ef gan ei fab
Ganed yn Gredington, 1 Ebrill 1805, a chafodd ei addysg yn ysgol Harrow a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen (ymaelodi 1823, B.A. 1826, M.A. 1829). Bu'n aelod seneddol (Ceidwadwr) dros S. Michael's, Cernyw, 1830-2. Ceisiodd gael ei ddewis yn aelod dros sir Ddinbych yn etholiad 1833, ond ni lwyddodd. Priododd, 29 Mehefin 1833, Georgina, merch ieuengaf Thomas de Grey, 4ydd arglwydd Walsingham, a bu iddynt bum mab a phum merch. Bu farw yn Eastbourne, 24 Gorffennaf 1864, a chladdwyd ef yn Hanmer.
Dilynwyd ef gan ei ŵyr
Mab Lloyd Kenyon (1835 - 1865) a Fanny Mary Katherine, unig blentyn John Ralph Ormsby-Gore, yr arglwydd Harlech 1af, trwy ei wraig Sarah, merch ieuengaf ac aeres Syr John Tyssen Tyrell, barwnig, Boreham House, Essex. Ganwyd 5 Gorffennaf 1864, bu'n ddirprwy-ganghellor Prifysgol Cymru o 1920 hyd 1927, ac yn llywydd Coleg y Gogledd o 1900 hyd 1927. Bu farw 30 Tachwedd 1927.
Ail fab y 3ydd arglwydd Kenyon. Fel ei frodyr, cafodd ei addysg yn ysgol Harrow a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen. Fe'i derbyniwyd yn fargyfreithiwr yn 1869, eithr am ei fod â'i fryd ar fywyd gwleidyddol nid ymarferodd â'r gyfraith. Ar ôl colli ddwywaith, eithr â dim ond ychydig o bleidleisiau'n fwy gan ei wrthwynebydd, yn 1874 ac 1880, fe'i hetholwyd dros fwrdeisdrefi Dinbych yn 1885; cynrychiolodd yr etholaeth honno hyd 1895 ac eilwaith o 1901 hyd 1906. Ni safodd yn etholiad 1895, eithr gwnaeth hynny yn 1897 yn etholaeth dwyrain Dinbych, ond ni lwyddodd. Yr oedd iddo ddiddordeb arbennig mewn addysg, a bu'n gyfrifol i raddau helaeth am basio y 'Welsh Intermediate Education Act.' Gan ei fod yn ei ddiddori ei hun gymaint yn natblygiad Wrecsam a'r gymdogaeth, daeth yn gadeirydd cyntaf y 'Wrexham and Ellesmere Railway Company.' Priododd, 1875, Florence Anna, merch John Hurleston Leche, Carden, sir Gaer; goroesodd hi ei gŵr. Bu ef farw 8 Gorffennaf 1908.
Ŵyr Thomas, 3ydd mab yr arglwydd Kenyon cyntaf, oedd yr ysgolhaig Groegaidd a Beiblaidd enwog Syr FREDERIC GEORGE KENYON (1863 - 1952), Cyfarwyddwr yr Amgueddfa Brydeinig.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.