LLOYD, JOHN ('Einion Môn '; 1792 - 1834), ysgolfeistr a bardd

Enw: John Lloyd
Ffugenw: Einion Môn
Dyddiad geni: 1792
Dyddiad marw: 1834
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr a bardd
Maes gweithgaredd: Addysg; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1792 ym Mhwllgynnau, Ceidio, Môn. Y mae bron y cwbl a wyddys am ei yrfa i'w gasglu o farwnad ddienw arno, a argraffwyd yn Y Gwyliedydd (1834, 375), a'r Gwladgarwr (1835, 24). Bu farw ei rieni pan nad oedd ef ond plentyn; bu mewn ysgol yn Llannerch-y-medd; ac aeth (ar adeg anhysbys) i Lundain. Honnir weithiau mai ' cyfreithiwr ' (efallai glerc yn swyddfa cyfreithiwr) oedd, ond y mae'r cofnod o'i farw yn Y Gwyliedydd (1834, 288) yn ei ddisgrifio fel ' athraw Ysgol Syr John Cass ' - dywedir fod dau o feibion dug Wellington yn yr ysgol honno, ac y byddai Lloyd yn hyfforddi'r rheini yn eu cartref ar wyliau'r ysgol. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Gwyneddigion yn 1827 (Leathart, Origin and Progress of the Gwyneddigion, 110). Yr oedd hefyd yn aelod o'r Cymreigyddion; bu'n is-lywydd ac yn ' fardd ' iddynt, a phan ymosododd rhai clerigwyr yng Nghymru ar y gymdeithas honno, canodd Lloyd (1829) res o benillion, ' Cymreigyddion Caerludd versus Cleberwyr Diymenydd.' Dengys adroddiadau o gyfarfodydd y Cymreigyddion (yn Seren Gomer) y byddai hefyd yn darlithio iddynt. Ond yn 1832, fe'i cawn, yng nghwmni Griffith Davies, F.R.S., yn protestio'n erwin yn erbyn tueddiadau gwleidyddol Radicalaidd y gymdeithas (ceir y ddadl yn Y Gwyliedydd ac yn Seren Gomer). Eto i gyd, os yw'r farwnad yn gywir, yr oedd gynt wedi cymryd rhan flaenllaw yn y brotest yn erbyn cau'r comin a chwalu'r tai unnos ym mhlwyfi Llandwrog a Llanwnda yn Arfon. Byddai'n prydyddu nid yn unig yn Gymraeg ond hefyd yn Saesneg - yn Seren Gomer (1832, 55) ceir cyfieithiad gan ' Eryron Gwyllt Walia ' (Robert Owen) o gân o'i eiddo, 1831, ar y gwanwyn. Bu farw 3 Awst 1834, yn 42 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.