Ganwyd yng Nghefngellgwm, Trawsfynydd, 14 Gorffennaf 1820, mab Morris Lloyd, amaethwr. Dywedir fod y teulu yn gangen o deulu Llwydiaid Cynfal. Ar y cychwyn bwriadai Morgan Lloyd fod yn fesurydd tir, a bu'n cynorthwyo John Matthews i fapio plwyf Trawsfynydd yn 1839. Ar ôl hynny aeth i Goleg y Methodistiaid Calfinaidd, y Bala, ac oddi yno i Brifysgol Edinburgh. Penderfynodd fyned yn fargyfreithiwr, ymaelododd yn y Middle Temple yn Llundain, a galwyd ef at y Bar yn Ionawr 1847. Ymunodd â chylchdaith Caer a Gogledd Cymru, a daeth i fusnes mawr yn fuan; ystyrid ef yn neilltuol fedrus fel dadleuydd dros yr amddiffyniad, ac yn ei apel at reithwyr. Am amryw flynyddoedd yr oedd yn un o ddadleuwyr blaenaf y gylchdaith. Gwnaed ef yn Q.C. yn 1873, ac etholwyd ef yn ' Bencher ' yn y Middle Temple yn 1875. Ysgrifennodd ar faterion cyfreithiol, ac ef oedd awdur The Law and Practice of the County Courts. Yn 1868 bu'n ymgeisydd Rhyddfrydol aflwyddiannus yn etholaeth bwrdeisdrefi Môn, ond yn 1874 llwyddodd i ennill y sedd a bu'n ei chynrychioli hyd 1885, pan unwyd y bwrdeisdrefi ag etholaeth y sir. Yn y flwyddyn honno bu Morgan Lloyd yn ymgeisydd Rhyddfrydol answyddogol ym Meirion; rhannodd ei ymgeisiaeth y gwersyll Rhyddfrydol, gan fod y Gymdeithas Ryddfrydol wedi dewis H. Robertson yn ymgeisydd swyddogol. Yr oedd W. R. M. Wynne, Peniarth, ar y maes fel Ceidwadwr. Cafodd Morgan Lloyd gefnogaeth llawer yn Ffestiniog a'r ardaloedd cylchynol, ond Robertson a enillodd y dydd. Torrodd Morgan Lloyd â Gladstone ar gwestiwn ymreolaeth Iwerddon, ac yn 1892 yr oedd yn ymgeisydd Undebol Rhyddfrydol am sedd Môn, ond colli a wnaeth. Cymerai ddiddordeb mewn addysg yng Nghymru; yr oedd yn is-drysorydd pwyllgor mudiad 1863 i gael prifysgol i Gymru, a bu am rai blynyddoedd yn ysgrifennydd mygedol i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth. Bu'n briod ddwywaith, y tro cyntaf gyda merch i'r llyngesydd Elphinstone Fleming, ac yn ail gyda Priscilla, merch James Lewes, Cwmhyar, Sir Aberteifi. Bu farw yn Brook Green, ger Llundain, 5 Medi 1893, a chladdwyd ef yng nghladdfa Willesden.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.