Y mae Gwilym Ddu yn ei gysylltu â'r Tŵr, Edeirnion, h.y. Hendwr, Llandrillo. Syrth ei waith i ddau ddosbarth: (a) canu i dri o fân dywysogion gogledd Powys, sef Gruffudd (bu farw 1269) a Hywel (bu farw tua 1268), feibion Madog ap Gruffudd Maelor, a Llywelyn, fab Gruffudd ap Madog uchod. Gan amlaf yr oedd y rhain yn ffyddlon i'r Llyw Olaf, ac fe'u molir am 'gadw terfyn heb wathrudd,' sef am warchod y ffin; (b) y pum awdl i Lywelyn ap Gruffudd. Dyma'r prif fynegiant mewn barddoniaeth Gymraeg o benllanw'r ysbryd Cymreig gorfoleddus a gydredai â llwyddiant y tywysog hwn.
I'r bardd hwn, y mae Cymru'n un, Llywelyn yn ben o Hwlffordd i Gydweli, ' ni chais Sais droedfedd o'i fro'; llyw Gwynedd, Powys, a Dehau ydyw. Ni bu dim tebyg er dyddiau 'Fflamddwyn' a 'Gwaith Arfderydd'; y mae ef 'mal Arthur ' ac yn ' wir Frenin Cymru.' Yn erbyn 'estron genedl anghyfiaith' y mae ei gweryl. Daw'r gair 'Cymro' i'r canu droeon, ac yn afieithus; â'r bardd cyn belled yn wir ag annog yr Arthur newydd i feddiannu Cernyw hithau. Hwn yw'r canu mwyaf 'cenedlaethol' yn Gymraeg cyn amser Glyn Dŵr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.