MAELGWN ap RHYS (bu farw 1295), gwrthryfelwr (yn 1294);

Enw: Maelgwn ap Rhys
Dyddiad marw: 1295
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwrthryfelwr
Maes gweithgaredd: Gwrthryfelwyr; Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Thomas Jones Pierce

mab Rhys Fychan, arglwydd olaf Genau'r Glyn yng ngogledd sir Aberteifi, a disgynnydd Maelgwn ap Rhys ap Gruffydd. Yn 1294, pan dorrodd gwrthryfel (o dan arweiniad Madog ap Llywelyn yng Ngogledd Cymru a Morgan ap Rhys ym Morgannwg) yn erbyn llywodraeth estron, fe'i gwnaeth Maelgwn ei hun yn arweinydd y gwrthryfelwyr yn Sir Aberteifi. Yn ystod yr ymgyrch yng ngorllewin Cymru bu gwarchae caled, eithr aflwyddiannus, ar gastell Llanbadarn (Aberystwyth) a chyrchoedd trymion i siroedd Caerfyrddin a Phenfro. Lladdwyd Maelgwn gan wŷr iarll Gloucester pan oedd yn ymladd gerllaw Caerfyrddin. Delid ei frodyr, Rhys a Gruffydd, yng ngharchar y brenin yn Norwich mor ddiweddar â 1308.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.