MANUEL, DAFYDD (1624? - 1726), bardd

Enw: Dafydd Manuel
Dyddiad geni: 1624?
Dyddiad marw: 1726
Priod: Margaret Manuel
Plentyn: Anne Manuel
Plentyn: Mary Manuel
Plentyn: David Manuel
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Dywedir yn y tri chyfeiriad cyntaf (isod) iddo gael ei eni yn y flwyddyn 1624-5. Ychydig a wyddys am ei fywyd. Yr oedd yn frodor o blwyf Trefeglwys, Sir Drefaldwyn. Bu farw ei wraig, Margaret, yn 1699. Bu iddynt dri o blant: Mary, a ddaeth yn adnabyddus am ganu penillion, Anne, a David. Cyhoeddwyd peth o waith y bardd yn Thomas Jones, Carolau a Dyriau Duwiol, 1696, David Jones, Blodeu-Gerdd Cymry, 1759, Powys Fadog, ii, 259, a'r Gwyliedydd, 1836, 250. Am ei weithiau mewn llawysgrif, gweler Cat. of Add. to B.M. MSS. 1841-5, a J. H. Davies, Cat. of MSS. in N.L.W. Gweler hefyd NLW MS 558B , NLW MS 566B , NLW MS 593E , NLW MS 653B , NLW MS 783B , NLW MS 832E , NLW MS 1244D , NLW MS 1580B , NLW MS 1710B , NLW MS 1797D , NLW MS 3487E , NLW MS 7191B , NLW MS 11991A , Bodewryd MS 73D , a Swansea MS. 2 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu farw Mai 1726, a chladdwyd yn Nhrefeglwys 16 Mai 1726.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.