Ganwyd yn y ' Cotts ' gerllaw Hasguard, gorllewin Penfro, 22 Chwefror '1724' (gall mai 1725), yn un o naw o blant; disgrifia ei dad fel ' clothier.'
Yn 1741, yr oedd ef a'i frawd WILLIAM MENDS yn byw yn Nhalacharn (lle'r oedd melinau pannu), ac yno yr argyhoeddwyd hwy (pan oedd Christopher yn 17 oed) dan Whitefield. Aeth y ddau frawd ati i gynghori, ac yr oeddynt â gofal nifer o seiadau, mewn cylch a ymestynnai o Landeilo Fawr hyd Frowyr. Adroddant i'r sasiwn, 25 Hydref 1748, eu bod wedi cymryd tŷ yn Nhalacharn 'for Methodist worship,' a'i fod yn llawn bob Sul, ond mai egwan oedd y seiadau yno ac yng Nghaerfyrddin. Ond ar 10 Ionawr 1749 dengys cofnodion chwarter sesiwn y sir fod 'the house of Chr. Mends and William Mends, situate in the town of Laugharne' i'w restru'n dŷ-cwrdd Ymneilltuol.
Aeth Christopher i'r weinidogaeth Annibynnol; bu'n weinidog yn Brinkworth (Wilts) o 1749 hyd 1761, ac yna yn Plymouth 1761-99. Dywed iddo fod yn academi Caerfyrddin 'for some years,' dan Evan Davies; os felly, yr oedd yno cyn 1749, pan oedd eto'n gynghorwr Methodistaidd (cymharer Milbourne Bloom) - efallai mai ef a ofalai am seiat Caerfyrddin, a'i frawd am seiat Talacharn. Yn ôl cofnod Morafaidd (Y Cymmrodor, xlv, 34 ), aeth William hefyd yn Annibynnwr, ac yn wir y mae hanes y tŷ yn Nhalacharn yn cadarnhau hynny. Ni wyddys ragor am William, ond bu Christopher farw yn Plymouth, 5 Ebrill 1799. Gwelir ei hunangofiant yn yr Evangelical Magazine, 1799, 397.
Yn Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn, 1942, 33-41, argraffwyd parodi diddorol o bregeth gan ryw ' Young Mends the Clothier ' - y mae'n amlwg mai un o'r ddau frawd. Yn ysgrifen Lewis Morris o Fôn (NLW MS 67A ) y mae'r 'bregeth,' ond ni wyddys ai ef a'i lluniodd - sut bynnag, tebyg iddo glywed am 'Young Mends' pan oedd yn Nyfed yn mapio'r porthladdoedd. Ni ellir barnu chwaith pa faint o rawn sy'n gymysg ag us y ddychan; ond gellir nodi y gelwir tad y pregethwr yn 'David Mends.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.