MORGAN ap HUW LEWYS (fl. c. 1550-1600), bardd

Enw: Morgan ap Huw Lewys
Plentyn: Elin ferch Morgan ap Huw Lewys
Rhiant: Huw ap Lewys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

O Hafod-y-wern, ym mhlwyf Llanwnda, Sir Gaernarfon; mab y gŵr a oedd yn uchel gwnstabl cwmwd Uwch Gwyrfai yn 1548 (ac nid mab Huw Lewys o Blas yn Bont yn yr un plwyf, cyfieithydd Perl Mewn Adfyd, fel y tybid gan rai). Ymddengys mai'r Tryfan a lleoedd perthynol oedd cartrefi Huw ap Lewys a'i blant, ac mai trwy briodas y daeth y bardd i drigo yn Hafod-y-wern; trwy gangen arall o'r teulu aeth y lle'n ddiweddarach yn rhan o stad Llanfair-is-gaer. Ni wyddys ai'r bardd oedd y Morgan ap Huw Lewys a urddwyd yn offeiriad yn 1580 ac a noddid gan Wiliam Glyn, Glynllifon. Os felly, efallai iddo fod yn gaplan i Wiliam Glyn am dymor byr, ac iddo, ar ôl priodi, ymsefydlu yn Hafod-y-wern. Y mae enw Morgan ap Huw Lewys ar restr rheithwyr yn 1586. Ni wyddys ond am un plentyn i'r bardd, sef Elin, a briododd Siôn Gruffydd o Fadryn Isaf. Ymhlith ei farddoniaeth a gadwyd mewn llawysgrifau ceir llawer o gywyddau crefyddol a moesol ac englynion marwnad Huw ap Rhisiart o Gefn Llanfair yn Llŷn (NLW MS 16B ).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.