MORGAN, DAVID (1779 - 1858), gweinidog gyda'r Annibynwyr a hanesydd

Enw: David Morgan
Dyddiad geni: 1779
Dyddiad marw: 1858
Priod: Mary Morgan (née Hughes)
Plentyn: Ann Bynner (née Morgan)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr a hanesydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd yn Rhagfyr 1779 yn y Ddôl Wen, Llanfihangel-y-Creuddyn, Sir Aberteifi; ei dad yn wr cefnog ei amgylchiadau ac Eglwyswr y rhan fwyaf o'i oes, ond troes at y Methodistiaid cyn y diwedd. Cafodd well addysg na'r cyffredin yn ei ddydd; yn 23 oed aeth am dymor i ysgol yn Amwythig gan fwriadu myned yn fasnachwr. Yna daeth i Fachynlleth at un John Jones y Siopwr, un o golofnau yr Annibynwyr, a'r noson gyntaf iddo yno cyfarfu â'r Parch. John Roberts, Llanbrynmair. Yn hynafgwr, tystiai iddo ddwyn olion dylanwad personoliaeth y gwr hwnnw gydol ei oes. Blinodd ar fywyd masnach ac ymhen chwe mis dychwelodd gartref i'r Dolau, Talybont, ger Aberystwyth, lle y symudasai ei deulu yn y cyfamser, gan fwriadu ymsefydlu fel amaethwr.

Priododd Mary Hughes (1782 - 1826) merch y Llwynglas ac aethant i fyw i Cerrig-cyrannau ac ymaelodi gyda'r Annibynwyr yn groes i ddymuniad eu teuluoedd. Dechreuodd bregethu yn Nhalybont o dan weinidogaeth Azariah Shadrach. Yn 1811 cymerodd ofal eglwysi Tywyn, Llanegryn, a Llwyngwril. Urddwyd ef yn yr awyr agored yn Nhywyn, Mawrth 1813, a'r flwyddyn ddilynol derbyniodd alwad i'r Graig, Machynlleth, ac arhosodd yno hyd 1836. Sefydlodd ganghennau yn Soar, Uwchygarreg; Pennal; Llanwrin; Penegoes; a'r Glasbwll. Yn 1836 symudodd i eglwys Gartside, Manceinion, ac yn 1839 i Llanfyllin lle'r arhosodd hyd nes ymddeol yn 1857. Bu farw yng Nghroesoswallt 14 Mehefin 1858 a chladdwyd ef ym mynwent capel Pendref, Llanfyllin.

Priododd ei ferch, Ann, â Thomas Bynner, Llanfyllin, dilledydd. Bu iddynt hwythau fab, David Morgan Bynner a briododd â Catherine, merch Owen Daniel, Caethle, Tywyn yn 1877 (gweler yr erthygl ar John Daniel Jones). Gŵr cyntaf Catherine oedd Joseph David Jones.

Yr oedd yn un o arweinwyr ei enwad ac yn amlwg yng ngwleidyddiaeth ei ddydd fel Rhyddfrydwr. Ysgrifennodd lawer i'r Dysgedydd ac yr oedd ymhlith y rhai a ysgrifennodd erthyglau i ' Lyfr Glas ' John Roberts, Llanbrynmair. Eithr fel hanesydd y daeth fwyaf i amlygrwydd. Ei brif waith oedd Hanes yr Eglwys Gristnogol. Cyhoeddodd hefyd ddeg rhan o Hanes Ymneillduaeth yn Nghymru, yn bennaf hanes eglwysi Annibynnol, ond ni lwyddodd i gwpláu'r gwaith hwn; ac Esboniad ar Lyfr y Datguddiad, a rhannau o Broffwydoliaeth Daniel.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/