MORGANN, MAURICE (c. 1725 - 1802), awdur ysgrifau beirniadol ar Shakespeare ac ar wleidyddiaeth

Enw: Maurice Morgann
Dyddiad geni: c. 1725
Dyddiad marw: 1802
Rhiant: Hannah Morgan
Rhiant: Morris Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur ysgrifau beirniadol ar Shakespeare ac ar wleidyddiaeth
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Bertie George Charles

un o deulu'r Morganiaid, Blaenbylan, ym mhlwyf Clydau, Sir Benfro, hen dylwyth â'i achau yn olrhain i Lywelyn ap Gwilym o'r Cryngae (a oedd yn ewythr i'r bardd Dafydd ap Gwilym), ac Ednyfed Fychan, yn ôl yr achydd William Lewes (N.L.W. Bronwydd MS. 7170). Adwaenai Richard Fenton ef a'i frawd William yn dda a dywed mai ym Mlaenbylan, cyn i'r hen gartref syrthio'n adfeilion tua 1740-50, y magwyd ef, ac ychwanega mai'r ddau frawd oedd yr olaf o'r teulu. Hwyrach mai mab ydoedd i'r Morris Morgan, Blaenbylan, a'i wraig Hannah, a adawodd yn ei ewyllys, 25 Mai 1725 (sydd yn awr yn Ll.G.C.), arian ar gyfer addysg ei blant ieuainc, Sarah, Morris, a David. Ym mis Hydref 1766 fe'i penodwyd yn glerc yn swyddfa ysgrifennydd y wladwriaeth ac yn ysgrifennydd preifat i Shelburne. Bu'n gwasnaethu yn Quebec, 1768-70. Penodwyd ef yn is-ysgrifennydd y wladwriaeth ac yn 1782 yr oedd yn gweithredu fel ysgrifennydd i'r llywydd Guy Carleton yng Nghaerefrog Newydd. Yn 1783 ef oedd ysgrifennydd y genhadaeth i sefydlu heddwch ag America. Yr oedd Morgan yn awdur nifer o bamffledau ar destunau gwleidyddol a chymdeithasol (1758-94), ond ei waith mwyaf cofiadwy yw'r ysgrif gampus Essay on the Dramatic Character of Sir John Falstaff, 1777. Bu farw yn Knightsbridge, 28 Mawrth 1802.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.