MORGAN, THOMAS (1737 - 1813), gweinidog Undodaidd

Enw: Thomas Morgan
Dyddiad geni: 1737
Dyddiad marw: 1813
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Undodaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 2 Tachwedd 1737 ym mhlwyf Llannon, Sir Gaerfyrddin. Ychydig dros ben a wyddys am ei yrfa yn 30 mlynedd cyntaf ei fywyd, ac y mae'r hanes a adroddir gan William Williams ('Carw Coch') yn ei Weddillion Llenyddol (68-86) yn anghyson ag ef ei hunan ac â ffeithiau hysbys. Ysgolfeistr a gwehydd oedd Thomas Morgan ar y cyntaf; yr oedd iddo hefyd gryn enw fel llysieuegwr a meddyg gwlad, a dywedir mai ef oedd un o'r rhai cyntaf i fuch-frechu ym Morgannwg. Credai Walter J. Evans (Yr Ymofynydd, 1900) mai ef oedd y Thomas Morgan a fu yn academi Caerfyrddin o ganol 1769 hyd ganol 1772; nid ymddengys hynny'n anghredadwy, ond dylid cofio nad oes gennym ond yr enw noeth, ' Thomas Morgan,' heb unrhyw awgrym o hanes blaenorol y gwr hwnnw, yn llyfr cyfrifon y Bwrdd Presbyteraidd (y mae llyfr cofnodion y Bwrdd, a fuasai wedi rhoi manylion, ar goll am y cyfnod hwnnw); heblaw hynny, yr oedd y myfyriwr hwnnw'n derbyn grantiau, ac yr oedd rheol yn gwrthod y rheini i ddyn dros 23 oed. Ar y llaw arall, yr oedd Jenkin Jenkins, athro'r academi, yn bresennol pan urddwyd Thomas Morgan yn weinidog Blaengwrach, 1 Gorffennaf 1772, ac y mae'r dyddiadau hefyd yn ffitio'n dda. Yr oedd y gynulleidfa honno bellach wedi hen gefnu ar ei Chalfiniaeth, ac yn Ariaidd, a gwyddom fod Morgan ei hunan yn Undodwr erbyn 1802 beth bynnag, oblegid yr oedd yn aelod o ' Gymdeithas Ddwyfundodaidd Deheudir Cymru ' y pryd hwnnw. Cadwai ysgol ym Mlaengwrach. Parlyswyd ef yn 1809; yn 1810 aeth i fyw gyda pherthynas gerllaw Pontardawe; bu farw yno 17 Hydref 1813, a'i gladdu ym mynwent capel Undodaidd y Gellionnen. Yn ôl ei goflech, yr oedd yn 76 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.