Mab i Robert Morris o Bishop's Castle a Cleobury Mortimer. Yng Ngogledd Cymru y dechreuodd ei yrfa, a merch o Fachynlleth, Margaret Jenkins, oedd ei wraig; ond symudodd i Dredegar. Yn 1727, ymunodd â Richard Lockwood ac Edward Gibbon (taid yr hanesydd) i brynu gwaith copr yng Nglandŵr (Abertawe); bu ganddynt wedyn weithiau yn Llangyfelach a'r Fforest, a melin gwifrau pres, a glofeydd. Yn y Clase ('Clasemont'), rhwng Llangyfelach ac afon Tawe yr oedd Morris yn byw.
Yn union wedi ei farw ef cymerth ei ail fab, (Syr) JOHN MORRIS (1745 - 1819; ganwyd 15 Gorffennaf 1745), gam a roes ei enw'n llythrennol ar y map. Nid yw'n hollol eglur pa un ai ef neu ei dad a gododd y ' castellated mansion of collegiate appearance ' (Walter Davies, General View of the Agriculture … of South Wales, i, 134) gerllaw'r Clase, yn gartref i ddeugain teulu o'i lowyr (gyda chrydd a theiliwr at eu gwasanaeth); ond iddo ef yn ddieithriad y mae'r llyfrau teithio (John Evans, Malkin, Wood, etc.) yn priodoli codi'r pentre 'Morriston,' Treforus, y dywedir mai William Edwards y gweinidog a'r saer o Eglwysilan a'i cynlluniodd. Urddwyd John Morris yn farwnig yn 1806; aeth i fyw i Sketty Park, a bu farw 25 Mehefin 1819. Erys y farwnigiaeth hyd heddiw, ond darfu cyswllt y teulu â diwydiant ers tro mawr iawn. (Rhoddwyd papurau Robert Morris, bellach, i lyfrgell Coleg y Brifysgol yn Abertawe).
Gwahanol iawn fu gyrfa brawd hŷn Syr John, sef ROBERT MORRIS (1743 neu 1744 - 1797?). Aeth ef (1760) i Goleg Oriel yn Rhydychen, a graddio yn 1764; galwyd ef i'r Bar o Lincoln's Inn yn 1767, a dadleuai yn y Sesiwn Fawr yn Neheudir Cymru. Ond mewn materion gwleidyddol yr oedd ei ddiddordeb; pleidiai John Wilkes, ac ef oedd ysgrifennydd cyntaf y ' Society for Supporting the Bill of Rights ' a gychwynnwyd gan Horne Tooke yn 1769 i gefnogi Wilkes; ymddiswyddodd yn Awst 1770. Cwympodd i gryn anfri (a cholli cyfeillion a chydweithwyr fel Watkin Lewes), fis Mai 1772, trwy ddianc i'r Cyfandir gyda geneth 14 oed o aeres a oedd yn 'ward' iddo; gwrthododd clerigwr yn Lille eu priodi a charcharwyd yntau yno gan awdurdodau'r dref am amser, ond llwyddodd i fynd drwy'r seremoni yn Holand ac yn Denmarc; diddymwyd y 'briodas' gan y llysoedd Prydeinig yn 1784. Yn y cyfamser, daeth Morris ddwywaith o leiaf i helynt yn y wlad hon. Heriwyd ef yn 1782 i ymladd gornest am athrod ar y cyn-gadfridog Americanaidd Benedict Arnold; tawelwyd yr anghydfod hwnnw, ond yn yr un flwyddyn bu Morris yn 'second' mewn gornest arall, yn Hyde Park, a chan i un o'r ymladdwyr farw, bu'n rhaid i'r blaid arall sefyll eu prawf yn yr Old Bailey am lofruddiaeth - dyfarnwyd Morris yn ddieuog. Ymddengys ei enw ar restr aelodau mygedol Cymdeithas y Cymmrodorion yn 1778. Bu farw 'in the East Indies '; dywed Foster mai ar 29 Tachwedd 1793, ond yn ôl Burke's Peerage 1797 oedd y flwyddyn.
O dair chwaer y brodyr hyn, priododd Margaret â Noel Francis Desenfans, casglwr darluniau y mae ysgrif arno yn y D.N.B., a phriododd Bridget i deulu Lockwood, partner ei thad.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.