NASH, RICHARD ('Beau Nash '; 1674 - 1761)

Enw: Richard Nash
Ffugenw: Beau Nash
Dyddiad geni: 1674
Dyddiad marw: 1761
Rhiant: Richard Nash
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Abertawe 18 Hydref 1674, bu farw yn Bath 12 Chwefror 1761, a chladdwyd â rhwysg anarferol yn Bath Abbey. Adroddir ei yrfa hynod, a'r modd y dyrchafodd safle dinas Bath fel canolfan ffasiynol, yn ysgrif Thomas Seccombe yn y D.N.B., heb sôn am lu o lyfrau eraill.

Ei dad oedd Richard Nash, a aned yn nhref Penfro ond a oedd wedi ymsefydlu yn Abertawe 'n bartner mewn gwaith gwydr. Ni wyddys hyd yn hyn ddim o'i dras. Gellir nodi bod teulu o'r enw Nash wedi bod yn sgwïeriaid Nash ym mhlwyf Llangwm yn Sir Benfro (W. Wales Hist. Records, ii, 36-7; Laws, Little England, 445), teulu o 'newydd-ddyfodiaid' i'r sir meddai Fenton (efallai o dref Caerfyrddin, lle'r oedd yn 1586 fasnachwr pwysig o'r enw Richard Nash), a theulu yr oedd yr enw ' Richard ' yn frith ynddo. Ond darfu'r teulu hwnnw mewn aeresau. Fe allai, er hynny, i ryw fab iau o'r tylwyth droi at fasnach a chychwyn cainc newydd (a gwerinol), heb anghofio'r enw ' Richard.' Yr oedd mam ' Beau Nash ' yn nith i John Poyer o dref Penfro.

Addysgwyd Nash yn ysgol y frenhines Elisabeth yng Nghaerfyrddin, ac ymaelododd (fis Mawrth 1691/2) yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, ond ni raddiodd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.