OWEN, WILLIAM (1830 - 1865), cerddor

Enw: William Owen
Dyddiad geni: 1830
Dyddiad marw: 1865
Rhiant: Beti Owen
Rhiant: William Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 11 Mai 1830 yn Nhremadog, Sir Gaernarfon, mab William a Beti Owen. Cafodd ei addysg yn Ysgol Frutanaidd Pont-ynys-galch, Porthmadog, ac wedi hynny o dan Owen Griffith, Garn Dolbenmaen. Wedi marw ei dad bu raid iddo gynorthwyo ei frawd i gario ymlaen fasnach goed ei dad. Dechreuodd astudio cerddoriaeth yn ieuanc, a chafodd wersi ar ganu'r organ gan Mrs. Coventry (nith i'r iarll Coventry) a gadwai ysgol breifat yn Nhremadog. Yn eisteddfod Bethesda, 1851, enillodd y wobr gyda chanmoliaeth ' Tanymarian ' am yr anthem, ' Cân Moses a Chân yr Oen. ' Yr un flwyddyn cystadleuodd yn eisteddfod Madog ar ' Gweddi Habacuc.' Cyhoeddwyd ei anthem, ' Wrth afonydd Babilon, ' gyda chyfeiliant Dr. Wesley. Cyfansoddodd amryw garolau a thonau cynulleidfaol. Ceir y dôn ' Porthmadog ' o'i waith yn Caniadau y Cysegr a'r Teulu. Yn Y Cerddor Cymreig am Chwefror 1865 ceir ysgrif ganddo ar ' Melodedd, amrywiaeth ac ystwythder yn y gwahanol leisiau.' Bu farw 2 Awst 1865, a chladdwyd ef ym mynwent Penmorfa. (Mae anthem goffadwriaethol iddo, ' Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn,' o waith ' Gwilym Gwent ' yn Y Cerddor Cymreig, rhifau 64 a 65.)

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.