Dywedir ei eni yng Nghraig-y-gath, Llanfihangel-yng-Ngwynfa, Sir Drefaldwyn, yn 1709. Llifiwr coed oedd i ddechrau, ond treuliodd y 30 mlynedd olaf o'i oes yn clera gan ganu carolau o'i waith ei hun ar hyd y ffeiriau. Cyfansoddai garol Mai newydd bob blwyddyn, yn adrodd helyntion hynotaf y flwyddyn flaenorol, a dechreuai ei chanu yn Ebrill. Mynychai'r mân eisteddfodau ac y mae rhai o'i englynion ar gael yn yr almanaciau, eithr ychydig o'i waith a argraffwyd. Araf ac afrwydd oedd ei awen; nid oedd yn ddigon ffraeth i ateb ' Twm o'r Nant ' mewn ymryson. Dyn bychan, diniwed, ydoedd, a thybiai am ei eni y flwyddyn y bu farw Huw Morys mai arno ef y disgynnodd mantell ' Eos Ceiriog.' Gellid tybio oddi wrth ei englynion yn Almanac Gwilym Howell, 1774, ei fod yn casáu'r Methodistiaid a'r Anghydffurfwyr.
Dywedir mai yn Llanfyllin y bu farw, mewn dygn dlodi, yn 90 oed. Claddwyd ef ym mynwent Llanfihangel-yng-Ngwynfa 15 Tachwedd 1800.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.