PARRY, HENRY (1766? - 1854), clerigwr a hynafiaethydd

Enw: Henry Parry
Dyddiad geni: 1766?
Dyddiad marw: 1854
Rhiant: Henry Parry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd c. 1766, mab Henry Parry, Brynllech, Llanuwchllyn. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (ymaelodi 1 Mehefin 1786, yn 20 oed; B.A. 1790). Bu'n ficer Llanasa, Sir y Fflint, am gyfnod hir, sef o 1798 hyd 1854; gwnaethpwyd ef yn un o ganoniaid Llanelwy ar 3 Mai 1833. Yr oedd yn flaenllaw fel eisteddfodwr (gweler Seren Gomer, 1834, 212, am ei hanes yn llywyddu mewn eisteddfod beirdd yn Nhreffynnon, 3 Mehefin 1834) ac fel hynafiaethydd (gweler marw-goffa byr yn Archæologia Cambrensis, 1855, 58). Golygodd ail argraffiad (Rhydychen, 1809) gramadeg y Dr. John Davies o Fallwyd a gyhoeddasid gyntaf yn 1621; sylwer fod argraffiad Parry ar werth gan Broster a Poole yng Nghaer a chan Carnes yn Nhreffynnon. Y mae rhai llythyrau a ysgrifennodd wedi eu cadw yng nghasgliadau Edward Jones (' Bardd y Brenin '), Thomas a David Pennant, a Walter Davies ('Gwallter Mechain') yn Ll.G.C.; e.e. NLW MS 165C , NLW MS 1807E , NLW MS 1893E , NLW MS 2590E , NLW MS 2591E , NLW MS 4877E a NLW MS 4878E . Bu farw 17 Rhagfyr 1854.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.