PERKINS, WILLIAM (fl. 1745-76), gweinidog Annibynnol

Enw: William Perkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ni wyddys ddim am ei addysg fore ond yn ôl rhestr Wilson (copi yn NLW MS 373C ) yr oedd un Perkins yn academi Caerfyrddin yn 1745, yng nghyfnod Evan Davies. Ni sonia Thomas Morgan (Henllan) amdano, ac ni cheir ei enw ymhlith y myfyrwyr a dderbyniai roddion oddi wrth y Bwrdd Presbyteraidd a'r Bwrdd Cynulleidfaol yn y cyfnod hwnnw; ond nid yw hynny'n brawf nad oedd yn yr academi. Bu'n weinidog yn Ninbych o 1767 i 1769, ac yng Nghaerfyrddin yr addysgwyd ei ddau ragflaenydd yn yr eglwys honno. Rhwng 1770 a 1776 fe'i ceir yn weinidog ar eglwysi Pencader a Phantycreuddyn. Derbyniodd rodd oddi wrth y Bwrdd Cynulleidfaol - ' 4 November 1776. Extraordinary Supply. William Perkins, Pencader, Carmarthenshire £5. ' Yr oedd yn bregethwr galluog, poblogaidd, a dawnus, ond yn anghymedrol ei rodiad. Wedi methu ei ddiwygio bu'n rhaid i'r eglwysi ei wahardd i weinidogaethu iddynt, a pharodd hynny ymraniadau yn eu plith. Glynodd amryw o'i braidd wrtho, ond edwinodd yr eglwys ym Mhantycreuddyn, wedi sefydlu eglwys Horeb. Bu ymraniad mawr ym Mhencader a chododd cefnogwyr Perkins gapel newydd Salem, ger New Inn, tua dwy filltir o Bencader. Yr oedd gweithred capel Pencader yng ngofal un o'i gefnogwyr, a gwelwyd oddi wrth honno mai gan y gweinidog yr oedd yr hawl i'r capel. Pan adfeddiannwyd y capel gan y gweinidog, aeth mwyafrif yr aelodau allan i addoli mewn ty yn agos i Gwmhwplin. Yn 1785, adeiladwyd capel newydd a alwyd yn Bencader, a rhoddwyd galwad i Jonathan Jones fod yn weinidog yno. Gwaethygodd rhagolygon William Perkins yn fuan, a gwerthodd i'r eglwys ei hawl ar yr hen gapel. Symudodd i Gydweli a thrachefn i Lundain, lle y cafodd swydd dan y Llywodraeth ar afon Llundain. Yno y bu farw, ond ni wyddys pa bryd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.