PIERCE, ELLIS ('Elis o'r Nant '; 1841 - 1912), awdur rhamantau hanesyddol a llyfrwerthwr

Enw: Ellis Pierce
Ffugenw: Elis O'r Nant
Dyddiad geni: 1841
Dyddiad marw: 1912
Priod: Gwen Pierce (née Jones)
Rhiant: Elizabeth Pierce
Rhiant: Thomas Pierce
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur rhamantau hanesyddol a llyfrwerthwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd yn ffermdy Tan-y-clogwyn yn ymyl Tŷ Mawr, Wybrnant, ym mhlwyf Dolwyddelan, 29 Ionawr 1841, yr ieuengaf ond un o 19 plentyn Thomas Pierce, pump ohonynt o'r wraig gyntaf, a'r lleill, gan gynnwys Ellis, o'r ail wraig, Elisabeth. Ychydig o addysg ffurfiol a gafodd y bachgen. Meistrolodd hanfodion y Gymraeg yn ysgol Sul Capel Cyfyng o dan athrawiaeth ei dad. Bu hwnnw farw yn 1851 a symudodd y fam a'r plant i dyddyn Tanybwlch yn yr un plwyf. Cyn hynny buasai raid i'r bachgen gymryd ei ran yng ngorchwylion dwy fferm fynyddig o ryw saith ugain cyfer yr un, ond y gaeaf wedi marw ei dad cafodd fyned i ysgol David Williams ym Mhenmachno, a bu yno am dair blynedd. Ym mis Mai 1854 cafodd salwch trwm a'i cadwodd yn orweiddiog am bum mlynedd ac a'i gadawodd gyda choes grwca. Yn ystod y cyfnod hwn darllenai bob llyfr a ddygid iddo gan gyfeillion a chymdogion, a thrwy hunan-ddiwylliant casglodd swm sylweddol o wybodaeth. Wedi iddo ddechrau ailgerdded sylweddolwyd na allai ddal gwaith fferm, a chafodd le fel clerc pwysau yn chwarel Cwt y Bugail, ar gyflog o 13 swllt yr wythnos. Yr oedd y goruchwyliwr, Evan Evans, yn llenor gwlad brwdfrydig, a chyda'i gefnogaeth ef dechreuodd Ellis lenydda ac ysgrifennu i'r Faner. Bu'n ohebydd cylch Llanrwst i'r Faner am hanner canrif. Cymerodd ran amlwg mewn dadleuon newyddiadurol ar faterion addysg, pwnc y tir, a gwelliannau cymdeithasol, ac ysgrifennodd lawer ar hanes a hynafiaethau lleol. Drwy ei ysgrifau beiddgar gwnaeth iddo'i hun elynion erlidgar. Yn 1870, bu raid iddo gilio i Utica yn yr Unol Daleithiau, ond dychwelodd yn 1874, gan ddechrau busnes deithiol i werthu llyfrau a mân nwyddau cyffredinol. Yn 1882 ysgrifennodd i'r Faner hanes cymeriad hynod a elwid 'Calwalad y Clogwyn,' a gladdwyd ym Metws-y-coed yn 1804. Gan fod yr hanes mor debyg i hanes person byw ar y pryd bu raid i'r Faner a'r awdur wynebu achos o athrod a cholli'r dydd. Bu'r treuliau yn dreth drom ar ei adnoddau prin, ond ni thorrodd ei galon. Dros lawer o flynyddoedd yr oedd ei stondin lyfrau ef yn sefydliad arbennig ar faes yr eisteddfod genedlaethol, a chipiodd yntau nifer o wobrau'r eisteddfod. Bu'n glerc cyngor plwyf Dolwyddelan o'r dechrau hyd o fewn ychydig flynyddoedd i'w farw. Bu hefyd am dymor yn aelod o fwrdd gwarcheidwaid a chyngor dosbarth gwledig Llanrwst, a chynrychiolodd ei ardal am flynyddoedd yng Nghymdeithas Ryddfrydol Arfon, gan roddi cefnogaeth frwdfrydig i William Rathbone a William Jones. Penodwyd ef gan W. J. Roberts ('Gwilym Cowlyd') yn gofiadur arwest Glan Geirionnydd. Tua 1891 priododd Gwen, ferch Owen Jones, Hafodfraith, Penmachno. Bu farw yn ei dŷ, Willoughby House, yn Nolwyddelan, 31 Gorffennaf 1912, a chladdwyd ef ar 3 Awst ym mynwent Brynybedd y gwnaeth ef gymaint dros ei sicrhau. Gwnaethai restr o'r rhai a oedd i'w gwahodd i'r angladd ac i ddywedyd wrth droi oddi wrth y bedd, ' Wel, dyna'r hen Elis wedi mynd.'

Fel awdur rhamantau hanesyddol o storïau am gymeriadau cefn gwlad y mae iddo le pendant yn hanes y nofel Gymraeg. Dyma'i brif gyhoeddiadau: Nanws ach Rhobert: Neu Helyntion Cymdeithasol, Moesol, a Chrefyddol y dyddiau gynt (Dolyddelen, 1880); Yr Ymfudwr Cymreig (Blaenau Ffestiniog, 1883); A Guide to Nant Conway (Blaenau Ffestiniog, 1884); Rhamant Hanesyddol: Gruffydd ab Cynan (Dolyddelen a Blaenau Ffestiniog, 1885); Gwilym Morgan: Neu gyfieithydd cyntaf yr Hen Destament i'r Gymraeg (Bala, 1890); Syr Williams o Benamnen (Caernarfon, 1894); Teulu'r Gilfach, neu Robert Sion (Caernarfon, 1897); a Dafydd ab Siencyn yr Herwr, a Rhysyr Arian Daear (Caernarfon, 1905). Ysgrifennai'n gyson i'r Faner o 1865 i 1900, a chyfrannodd i'r Geninen, Cymru, Cyfaill yr Aelwyd , a Ceinion Llenyddiaeth Gymreig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.