Gŵr bonheddig cyfoethog ydoedd, yn hanfod o Popkiniaid Ynysdawe, a'r Fforest; bu'n byw ym Mhlas Tal-y-garn c. 1801, ond trigai yn y Fforest, Llansamled, ym mlynyddoedd olaf ei oes. Ni wyddys pryd yr ymunodd â'r Methodistiaid, ond daw i'r golwg yn 1759 fel cynghorwr a wrthwynebai ddychweliad Howel Harris yn y sasiynau. Daeth o dan ddylanwad athrawiaethau J. Glass a R. Sandeman c. 1760, a chreodd derfysg yn rhai o'r seiadau. Bu ar genhadaeth yn Ne a Gogledd Cymru, a sefydlodd achosion Sandemanaidd yn Abertawe, Llangadog, a Chaerfyrddin. Dadleuodd Williams, Pantycelyn yn erbyn ei olygiadau yn y sasiwn, a diarddelwyd Popkin. Dechreuodd drosi a chyhoeddi llyfrau Glass a Sandeman yn Gymraeg - Anghyfreithlondeb bwyta Gwaed, 1764; Llythyrau rhwng Samuel Pike a Robert Sandeman, 1765; a llyfrau eraill tebyg hyd 1768. Dechreuodd gyhoeddi cyfres o lyfrau cecrus, dadleugar, o'i waith ei hun cyn diwedd y 18fed ganrif, a daliodd ati am flynyddoedd - Dychymmygion Dynol yn nghylch Ffydd, 1797; Llythyr oddi wrth John Popkin at y Parch. David Jones … ynghylch Natur Crefydd, 1801. Cyhoeddodd lyfr yn erbyn esgob Tyddewi yn 1812, sef Traethawd yn nghylch Natur 'Ty Dduw,' neu 'Egluys Crist,' a llyfryn tebyg iddo yn 1813. Ymddangosodd dau lyfr Saesneg ar ôl hynny, sef Further Remarks on the Unitarian … Doctrine, 1815, a Observations on the Coming of the Son of God, 1821. Cyhoeddodd Llythyr I oddiwrth J. Popkin at Gyfaill yn 1824, a Llythr II, etc., yr un flwyddyn. Cybolfa ryfedd yw ei ysgrifeniadau, ond dangosant wybodaeth helaeth o'r Ysgrythur ynghyd ag anianawd chwerw a meddwl dryslyd. Ni wyddys pryd y bu farw.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Yn y 5ed llinell, ar ôl ' c. 1801', gwthier 'wedi ymbriodi â Mary, ferch James Prichard o'r Collenau, a fu'n byw ar un adeg yn Nhal-y-garn Fawr '. Ac ar dud. 724, noder i Popkin yn 1816 gyhoeddi Caniadau Cristianogol, casgliad o'i emynau. Cywirer 'Glass' i Glas y ddeudro.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.